1 Corinthiaid 2

2
Cymmeriad pregethu yr Apostol.
1Myfi hefyd, pan ddaethum attoch, frodyr, ni ddaethum gyda godidowgrwydd#2:1 Huperochê, llyth., crogi trosodd, bod uwchlaw, yna, rhagoroldeb, goruchafiaeth (1 Tim 2:2); kata, yn ol, yn ol cynllun neu safon godidowgrwydd, &c. ymadrodd neu ddoethineb pan yn cyhoeddi#2:1 Kataggellô, cyhoeddi, mynegi, dadgan, hysbysu yn gyhoeddus. Cyssyllter gyda ‘godidowgrwydd ymadrodd,’ &c. â ‘chyhoeddi,’ ac nid â ‘daethum.’ i chwi dystiolaeth#2:1 Tystiolaeth B D F G Ti. Tr. Al. El.; dirgelwch א A C WH. Diw. (Efallai o adnod 7). Duw. 2Canys ni fernais#2:2 Krinô, barnu, penderfynnu, bwriadu, ‘nid oedd gennyf fwriad neu feddwl.’ Gwel 7:37; 2 Cor 2:1; Act 15:19; Rhuf 14:13. Rhai a gyfieithant “Mi a benderfynnais i beidio gwybod,” &c. yn dda i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio#2:2 Yn ei Berson a'i Iawn. Yr oedd yr Ymgnawdoliad yn dramgwydd; yr oedd y Croeshoeliad yn fwy felly.. 3A mi a fum gyda chwi#2:3 Neu, ‘A mi a ddaethum attoch chwi.’ Yr ystyr yw, ‘Mi a syrthiais yn eich plith i wendid,’ &c. mewn gwendid ac ofn a chryndod#2:3 Neu, dychryn, gan ddangos pryder gorlethol. mawr. 4A'm hymadrodd a mater fy mhregethu#2:4 Kêrugma, yr hyn a bregethir, ffeithiau mawrion yr Efengyl, y sylweddau pwysig a gyhoeddir. Dynoda kerugma fater, a logos, ‘ymadrodd,’ ffurf ei bregethu; neu, y blaenaf, ei ffeithiau, a'r olaf, ‘yr addysg a gyfranna ar sail y ffeithiau hyn’. nid oeddynt yng ngeiriau deniadol#2:4 Peithos, darbwyllus, hudlawn. doethineb#2:4 Ddynol A C L P; gad. א B D Brnd., eithr yn amlygiad#2:4 Apodeixis, amlygiad, arddangosiad (gwneyd yn amlwg drwy godi y gorchudd), arbrawf, eglurhâd. Amlygiad a roddir gan yr Yspryd, nid yn gymmaint amlygiad o'r Yspryd, &c. yr Yspryd a gallu: 5fel na byddai eich ffydd chwi yn noethineb dynion, eithr yng ngallu Duw.
Yr Efengyl yn ddoethineb.
6Yn awr, doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ym mysg y rhai sydd wedi cyrhaedd addfedrwydd#2:6 Teleios, term Paul am y credadyn addfed, un wedi cyrhaedd ei lawn dwf. Defnyddir y gair yn wrthgyferbyniol i fabanod (nêpioi) yng Nghrist (Eph 4:13, 14), ac yn gyfystyr â'r ‘rhai ysprydol’ yn 3:1. Golyga ‘doethineb’ y ddysgeidiaeth ysprydol helaethach a dyfnach a gyfrennir — y bwyd cryf i'r cryf, megys bwriadau tragywyddol Duw, ei gynllun mewn perthynas i iachawdwriaeth Iuddewon a Chenhedloedd (Rhuf 9–11), dysgeidiaeth Efengyl Ioan, Colossiaid, ac Ephesiaid (1 Cor 15), &c.: eithr doethineb nid eiddo y byd#2:6 Neu, oes, cyfnod. hwn na llywodraethwyr#2:6 Nid ‘galluoedd ysprydol’ neu y ‘tywyllwch,’ ond ‘y doethion’; ‘y pendefigion’ a enwir yn 1:26. y byd#2:6 Neu, oes, cyfnod. hwn, y rhai sydd yn cael eu diddymmu#2:6 Katargoumenoi, y rhai y gwneir ffwrdd â hwy, y rhai sydd ar ddarfod am danynt. Y mae lefain Efengyl yn dileu coeg‐ddoethineb y byd.. 7Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch#2:7 Mustêrion, yn Paul, gwirionedd neu ffaith nas gallasai y rheswm dynol ddarganfod, ond a ddadguddir gan Dduw. Gwel Luc 8:10; Rhuf 16:25; Eph 3:4, &c. Cyssyllter ‘mewn dirgelwch’ â ‘doethineb Duw’; doethineb Duw, yr hon sydd gynnwysedig mewn dirgelwch — gwirionedd dadguddiedig. Eraill a'i cysyllta â ‘llefaru,’ ‘yr ydym yn llefaru doethineb Duw pan yn dadgan dirgelwch.’, yr hon sydd wedi bod yn guddiedig, yr hon a rag‐ordeiniodd Duw cyn yr oesoedd#2:7 H.y., erioed, ‘cyn y bydoedd.’ er ein gogoniant ni: 8yr hon nid oes neb o lywodraethwyr y byd#2:8 Neu, oes, cyfnod. hwn wedi dyfod i'w hadnabod#2:8 Ginôskô, dyfod i adnabod.: canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y Gogoniant: 9Eithr fel y mae yn ysgrifenedig,
Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust,
Ac na chyfodasant#2:9 Ymadrodd Hebreig, llyth., myned i fyny ar (gweler Act 7:23; Jer 3:16; 44:21), codi i fyny yn y meddwl fel gwrthrychau amgyffrediad, fel mater o brofiad a meddwl. i galon dyn,
Y#2:9 Hosa, y fath bethau (mawrion) A B C Brnd.; ha, y pethau א D F G. fath bethau a ddarparodd Duw i'r rhai sydd yn ei garu ef#2:9 Nid yw y dyfyniad hwn, fel uchod, i'w gael yn yr un llyfr o'r Hen Destament. Dywed Origen ei fod o Ddadguddiad Elias, ond nid oedd y llyfr Apocryphaidd hwn mewn bodolaeth yn amser Paul. Nid yw Paul yn defnyddio y frawddeg ‘Y mae yn ysgrifenedig’ i ddwyn i mewn ddyfyniad o lyfr nad yw ganonaidd. Y mae yma gyfuniad o Es 64:4 a 65:16, 17. Nid yw y fath gyfuniadau yn anaml yn Paul (Rhuf 9:33, o Es 28:16 a 8:14; Rhuf 11:26, 27, o Es 59:20 a 27:9)..
Doethineb Duw yn ddadguddiedig gan yr Yspryd.
10Eithr#2:10 Eithr (de) א A C D F G Ti. Tr. Al. Diw.; Canys B WH. i nyni#2:10 Gristionogion, yn neillduol i'r Apostolion a'u cydweithwyr. y dadguddiodd Duw hwynt trwy yr Yspryd: Canys y mae yr Yspryd yn chwilio#2:10 Eraunaô, cwbl‐chwilio, holi yn fanwl i, fforio. Dengys yr ymadrodd (1) Bersonoliaeth yr Yspryd, (2) Ei fod yn wahanol â'r Tâd, (3) Ei Ddwyfoldeb, (4) Ei weithgarwch, (5) Ei wybodaeth berffaith. pob peth, ië, ddyfnderoedd#2:10 Neu, ddyfnion bethau, ond y mae y gair pethau yn cyfyngu gormod ar yr ymadrodd. Y mae ‘dyfnderoedd’ Duw yn cynnwys ei sylwedd, natur, priodoleddau, bwriadau, a gweithrediadau. Dynodir yma weithgarwch yr Yspryd o fewn y cylch Dwyfol, ac nid yn yspryd y credadyn. Duw. 11Canys pwy ym mhlith dynion a ŵyr#2:11 Oiden, gwybod fel ffaith. bethau y dyn, ond yspryd y dyn yr hwn sydd ynddo? Felly hefyd pethau Duw nid edwyn#2:11 Egnôken (felly A B C D &c.), gwybod natur fewnol peth, gwybod trwy chwilio, &c. neb ond Yspryd Duw#2:11 Nid yw yn ychwanegu ‘yr hwn sydd ynddo,’ oblegyd y mae holl sylwedd y Duwdod yn perthyn i'r Yspryd.. 12Eithr nid yspryd y byd a dderbyniasom ni, eithr yr Yspryd yr#2:12 Yn dyfod allan (ek), yn deilliaw o. hwn sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad‐roddwyd i ni gan Dduw: 13y rhai hefyd yr ydym yn eu llefaru, nid mewn geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Yspryd#2:13 Glân L P; gad. א A B C D F G Brnd., gan gymharu pethau ysprydol â phethau ysprydol#2:13 Deonglir y frawddeg mewn llawer modd. Rhoddir llawer o ystyron i sugkrinô, prif ystyr yr hwn yw cyfuno, uno yn gyfaddas, ac felly yn wrthwynebol i diakrinô, gwahanu. Weithiau golyga cymharu (2 Cor 10:12) dwyn ynghyd ddau beth er mwyn eu cymharu a gweled eu gwerth perthynasol. Defnyddir y gair yn y LXX gyda breuddwydion i ddynodi deongli (Gen 40:8, 16, 22; Dan 5:15, 17). Hefyd golyga mesur, prisio, ‘Na fesurwch (na phrisiwch) fi yn ol fy nghofadail.’ Hefyd, rhai a gymmerant pneumatikois fel yn y rhyw wrrywaidd, ‘i rai ysprydol,’ ond y rhan fwyaf a farnant fod y gair yn y rhyw ganolog. Felly cawn y canlynol: (1) ‘gan esbonio pethau ysprydol drwy bethau ysprydol, megys athrawiaethau Cristionogaeth drwy gysgodau yr Hen Destament’ (Chrysostom), neu, ‘esbonio y cysgodau drwy yr athrawiaethau’ (Grotius); (2) ‘gan ddeongli pethau ysprydol i ddynion ysprydol’ (Godet, Bengel, Rückert, Hofmann, &c.); (3) ‘gan gyfuno pethau ysprydol â geiriau ysprydol,’ neu ‘gan gyfaddasu geiriau ysprydol i bethau ysprydol,’ hynny yw, cyfunai yr Apostol y gwirioneddau a ddysgid iddo gan yr Yspryd â iaith, dull, ffurf ysprydol. Yr oedd y sylwedd ysprydol yn cael ei osod allan mewn gwisg ysprydol..
Gwerthfawrogiad Doethineb Duw gan y dyn ysprydol yn unig.
14Yn awr, y dyn anianol#2:14 Psuchikos (yn yr Epistol hwn ac Iago a Judas), o psuchê, yr hwn fel rheol a ddynoda fywyd anifeilaidd dyn, ac felly yn wrthgyferbyniol i pneumatikos, yr ysprydol. Y mae y psuchê yn ei gylymmu wrth y ddaear, y mae y pneuma yn ei gyssylltu â Duw. Golyga y blaenaf egwyddor bywyd y sarx, y cnawd, natur lygredig dyn. Dynoda absennoldeb y bywyd uwch yr hwn a fwynheir drwy gymdeithas â Duw a thrwy bresennoldeb ei Yspryd yn y dyn. Y mae y corph anianol (15:44) yn gorph cymhwys i'r byd hwn yn unig. Nid y Cristion gwan a olygir yma, ond y dyn bydol, daearol, yr hwn sydd heb ei ail‐eni. ni dderbyn y pethau sydd o Yspryd Duw: canys ffolineb ydynt iddo ef; ac nis gall eu gwybod#2:14 Gnônai, ddyfod i'w gwybod., canys mewn modd ysprydol y profir#2:14 Anakrino (yn Paul a Luc), dwyn i brawf, holi o flaen llys (Luc 23:14; Act 4:9; 12:19), chwilio i mewn yn fanwl, gwahaniaethu, olrhain. Cynnwysa ffurfiad barn ar y gwirioneddau y chwilir yn ofalus iddynt, Yr oedd yr anakrisis yn Athen yn brawf rhagarweiniol, lle y cesglid profion, y gwrandewid ar dystion. Yr oedd arholiad Paul o flaen Ffestus yn anakrisis. hwynt. 15Ond y mae y dyn ysprydol yn profi#2:15 Anakrino (yn Paul a Luc), dwyn i brawf, holi o flaen llys (Luc 23:14; Act 4:9; 12:19), chwilio i mewn yn fanwl, gwahaniaethu, olrhain. Cynnwysa ffurfiad barn ar y gwirioneddau y chwilir yn ofalus iddynt, Yr oedd yr anakrisis yn Athen yn brawf rhagarweiniol, lle y cesglid profion, y gwrandewid ar dystion. Yr oedd arholiad Paul o flaen Ffestus yn anakrisis. pob peth#2:15 Neu, bob dyn., eithr efe nis dygir i brawf#2:15 Nis gellir ei wneuthur allan o gwbl, y mae yn ddirgelwch i'r dyn anianol. gan neb. 16Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a'i cyfarwydda#2:16 Sumbibazô, rhodio ynghyd, yna, cyfuno, gwau ynghyd, gosod ynghyd mewn ymresymiad, dyfod i benderfyniad, egluro (Act 9:22), yna addysgu (yn y LXX). Ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist#2:16 Crist A א C Brnd.; yr Arglwydd B D F G..

ที่ได้เลือกล่าสุด:

1 Corinthiaid 2: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้