1 Corinthiaid 1

1
Y Cyfarchiad.
1Paul, Apostol galwedig#1:1 Apostol yn rhinwedd galwad. Iesu#1:1 Felly א A Cyf. Syr. ac Aipht. Diw. WH.; Crist Iesu B D F G. La. Ti. Tr. Grist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes#1:1 Gwel Act 18:12–17., 2at eglwys Dduw yr#1:2 Yr hon sydd yn Corinth ar ol yng Nghrist Iesu B D F G; o flaen א A Syr. Memph. &c. hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyd â phawb a'r sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob lle, eu Harglwydd hwy a ninnau#1:2 Neu, ‘ym mhob lle o'u heiddo hwy a ninnau’ [Ellicott, Edwards, Bengel, Alford, &c.], megys Achaia ac Asia, neu yn Corinth ac Ephesus, &c. Cyfarcha Paul yr Eglwys Gyffredinol, a phwysleisia Arglwyddiaeth Crist.: 3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
Diolchgarwch.
4Yr wyf yn diolch i'm Duw yn wastad am#1:4 Peri, mewn perthynas i, o herwydd, ar ran. danoch chwi, am#1:4 Epi, ar sail. ras Duw yr hwn a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu: 5eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, ym mhob ymadrodd, a phob gwybodaeth#1:5 Logos, ymadrodd neu ddadganiad allanol; gnôsis, yr argyhoeddiad neu y wybodaeth fewnol. Gnôsis, amgyffrediad o wirionedd, logos, traethiad teilwng o hono. “Ni fu y saint erioed yn ddystaw.” — Pascal.. 6Megys#1:6 Yn y modd, yn y dull. y cadarnhâwyd tystiolaeth#1:6 Tystiolaeth am Grist. Crist#1:6 Duw B F G. ynoch#1:6 Neu, yn eich plith.: 7fel nad ydych yn ddiffygiol#1:7 Hustereisthai, bod yn amddifad o, bod ar ol mewn, bod mewn anghen o, syrthio yn fyr o. mewn un dawn#1:7 Charisma (yn fynych yn yr Epistol) rhodd neillduol, gras, ffafr heb haeddiant, y rodd o ffydd, gwybodaeth, sancteiddrwydd, &c. (Rhuf 1:11) Dynoda Charisma, mewn ystyr neillduol, ddoniau goruwch‐naturiol yr Yspryd, galluoedd anarferol, dawn i lefaru mewn ieithoedd dyeithr, iachau y cleifion, &c. Defnyddir y gair yn unig gan Paul, gyda'r eithriad o 1 Petr 4:10.; gan ddyfal‐ddysgwyl#1:7 Apekdechomai. Y mae y ddau arddodiad yn dynodi dysgwyliad taer ac amyneddgar; gan awgrymmu edrych ymaith oddiwrth (apo) bob peth arall at yr hyn a ddymunir, gan edrych allan (ek) am dano. am ddadguddiad#1:7 Yn ei Ail Ddyfodiad, neu ddadguddiad graddol o ddirgelion ei Deyrnas. ein Harglwydd Iesu Grist; 8yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y diwedd, fel y byddwch yn ddiargyhoedd#1:8 Anegklêtous, yn rai nas gellir dwyn egklêma, cyhuddiad, yn eu herbyn (Rhuf 8:33). Golyga nid yn gymmaint difai ag annghyhuddedig. yn Nydd#1:8 Nyfodiad (parousia) D E F G; Yn Nydd א A B C. ein Harglwydd Iesu Grist. 9Ffyddlawn yw Duw, trwy yr hwn y'ch galwyd i gymdeithas#1:9 Koinônia, cyd‐gyfrannogiad, cymmundeb. Y mae credinwyr yn meddu cymmundeb â Christ yma, a chyd‐gyfrannogiad o'i ogoniant yn y Nefoedd. ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
Desgrifiad o'r ymraniadau.
10Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch yr un peth, ac na byddo ymbleidiau#1:10 Schisma, rhwyg (Mat 9:16), annghydfod, ymrafael (Ioan 7:43). Yma plaid, ymraniad: gwrth‐blaid yn yr eglwys, ac nid ymraniad neu Sism o'r eglwys. yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich cwbl‐aduno#1:10 Katartizô, cyweirio (rhwydau, Mat 14:21), adgyweirio, adferu (Gal 6:1), parotoi, trefnu, cyfaddasu, perffeithio. Ystyr lythyrennol, cyfannu, trwy osod y gwahanol ddarnau at eu gilydd. Yma, cwbl‐aduno, llawn‐adferyd. yn yr un meddwl#1:10 Nous, meddwl, deall, yna, sefyllfa y meddwl, a gnôme, barn, opiniwn, syniad, sef cynnyrch y sefyllfa hon. Dynoda y blaenaf yr amgyffrediad o'r Efengyl yn ei chyfanrwydd, a'r olaf y modd y penderfynnir rhyw bwynt neillduol. Defnyddir nous fel rheol am y rheswm damcaniaethol, a gnomê am y rheswm ymarferol. ac yn yr un farn#1:10 Nous, meddwl, deall, yna, sefyllfa y meddwl, a gnôme, barn, opiniwn, syniad, sef cynnyrch y sefyllfa hon. Dynoda y blaenaf yr amgyffrediad o'r Efengyl yn ei chyfanrwydd, a'r olaf y modd y penderfynnir rhyw bwynt neillduol. Defnyddir nous fel rheol am y rheswm damcaniaethol, a gnomê am y rheswm ymarferol.. 11Canys gwnaed yn amlwg i mi am danoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai o dy Chloe#1:11 Yr hon yn debyg a berthynai i Ephesus. Efallai fod Stephanas, Fortunatus ac Achaicus yn perthyn iddi (16:17)., fod cynhennau#1:11 Erides, ymrysonnau chwerw, ymrafaelion, ymddadleuon, yn arwain i schismata, rhwygiadau. yn eich plith. 12A hyn yr wyf yn ei feddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi yn wir wyf eiddo Paul#1:12 Llyth., Myfi yn wir wyf o Paul, yn ddysgybl, yn ganlynwr, yn bleidiwr, i Paul.; ond myfi wyf eiddo Apollos#1:12 Byr o Apollonius. Enw Groeg ar Iuddew. Mabwysiedid y fath enwau yn fynych. [Gwel Act 18:24—19:1]; ond myfi wyf eiddo Cephas#1:12 Aramaeg am Petros, Petr.: ond myfi wyf eiddo Crist#1:12 Barna rhai mai Chrestos ddylai fod, gan ddynodi arweiniwr arall. Nid oes sail i hyn.. 13A ydyw y Crist wedi ei rannu#1:13 Felly Ti. Tr. Al. Diw. a'r rhan fwyaf o esbonwyr. Y mae y Crist wedi ei rannu, La. WH. Stanley, Meyer, &c. Gwell ystyried yr ymadrodd fel gofyniad. Y mae yn fwy cydweddol âg arddull Paul. Defnyddir merizô bedair gwaith gan yr Apostol, yma, 7:17, 34, a 2 Cor 10:13. Ei ystyr ganddo ydyw, pennodi fel rhan, trosglwyddo fel cyfran [to allot, to assign]. Gweler hefyd Heb 7:2; Luc 12:13. Felly yr ystyr yma ydyw, A yw Crist wedi ei drosglwyddo fel cyfran neu eiddo rhyw blaid neu sect neillduol? Ai nid ydyw yn Ben i'r holl Eglwys, a'r unig Iachawdwr i bawb? Ai nid ydyw pawb Cristionogion yn aelodau o hono ef? Ai nid yw yr oll o'r credinwyr yn ffurfio ei Gorph, sef yr Eglwys Gyffredinol?? a groeshoeliwyd Paul drosoch chwi? neu a fedyddiwyd chwi i#1:13 Y mae ‘i enw’ yn golygu i ufudd‐dod i'r, i undeb â'r, i dderbyniad o'r person a nodir yn yr oll ag ydyw, ac yn yr oll a wna. Yn y bedydd y mae y credadyn yn rhoddi ei hunan i fyny, yn gorff ac enaid, i feddiant a gwasanaeth Crist. Cyfeiria y gofyniad cyntaf atto fel Iachawdwr, a'r ail fel Arglwydd. enw Paul? 14Yr ydwyf yn diolch i#1:14 I Dduw A א C D F G Al. Tr. El. Diw.; gad. א B Ti. WH. Dduw na fedyddiais i neb o honoch, oddi eithr Crispus a Gaius#1:14 Crispus, prif lywodraethwr y Synagog (Act 18:8). Gaius (y Groeg am Caius) “fy llettywr i” (Rhuf 16:23), nid yr un a Gaius o Derbe (Act 20:4) na Gaius o Macedonia (Act 19:29).: 15fel na ddywedo neb mai i fy enw i#1:15 Fel y gwnai Menander ac eraill ar ol hyn. y'ch#1:15 Y’ch bedyddiwyd א A B C Brnd.; y bedyddiais D F G. bedyddiwyd. 16A bedyddiais hefyd deulu#1:16 Llyth., dy. Y mae oikos, ty, yn gyfystyr âg oikia, teulu. Gwel 16:15–18 Stephanas: heblaw hynny, nis gwn a fedyddiais i neb arall.
Yr Efengyl yn ddadganiad o Iachawdwriaeth trwy Grist.
17Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu: nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn wag#1:17 Kenoô, gwaghau, gwneyd yn ddieffaith, yn ddirym, yn ofer; amddifadu y groes o'i sylwedd a'i rhinwedd. Y mae kenoô yn fwy dadganiadol na katargeo, yr hwn a ddefnyddir mor fynych gan Paul (Rhuf 3:3, 31; 1 Cor 1:28, &c., 25 o weithiau yn Paul, 2 yn Luc). Gweler Phil 2:7, “Yr hwn a waghâodd ei hun.”. 18Canys ymadrodd y groes, i'r rhai sydd yn myned i golledigaeth#1:18 Apollumenois, yn y llais canolog a'r amser presennol, y rhai sydd yn colli eu hunain, ‘y rhai sydd yn ffordd colledigaeth.’ Y mae yr olaf yn y llais goddefol. Gwaith dyn ei hun yw colli ei hun; gwaith Duw yw ei gadw., ffolineb yw; eithr i ni y rhai sydd yn cael ein hachub#1:18 Apollumenois, yn y llais canolog a'r amser presennol, y rhai sydd yn colli eu hunain, ‘y rhai sydd yn ffordd colledigaeth.’ Y mae yr olaf yn y llais goddefol. Gwaith dyn ei hun yw colli ei hun; gwaith Duw yw ei gadw., gallu Duw ydyw. 19Canys y mae yn ysgrifenedig:
Mi a ddyfethaf ddoethineb y doethion,
A gwnaf i ffwrdd#1:19 Atheteo, gwneyd i ffwrdd, gwneyd yn fethiant, diddymmu, dirymmu, gwrthod. â deall#1:19 Sunesis, deall; phronêsis, callineb; sophia, doethineb. Y mae yr olaf yn perthyn i gylch yr holl gynneddfau, ac yn golygu traidd meddwl (intuition); y mae sunesis yn perthyn yn bennaf i'r deall, ac yn cynnwys adfyfyriad (reflection), tra y mae phronêsis yn dynodi doethineb ymarferol, callineb. y deallus#1:19 Y mae y dyfyniad yn ol y LXX gyda'r eithriad o athetêsô, ‘gwnaf i ffwrdd,’ am krupso, mi a guddiaf.#Es 29:14
20Pa le y mae y Doeth#1:20 Neu, ‘Pa le y mae dyn doeth? &c. Golyga y Doeth (sophos) yr Athronydd Groegaidd; yr Ysgrifennydd, y doethwr Iuddewig, deonglwr y Gyfraith, &c. Y mae dadleuwr (suzêtêtês) yn derm eang gan gynnwys y ddau uchod ac eraill o'r un nodwedd, a phawb a garant wrth‐ddadleu a dangos eu doethineb ddynol.? pa le y mae yr Ysgrifennydd? pa le y mae dadleuwr y cyfnod#1:20 Neu, yr oes, y byd hwn. Y mae i aiôn ystyr foesol, gan ddynodi cwrs y byd a thuedd lygredig yr oes. hwn? oni drodd Duw yn ffolineb ddoethineb y#1:20 Y byd א A B C D Brnd. ond El.; y byd hwn F G. byd? 21Canys yn gymmaint ag, yn noethineb Duw, nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw#1:21 “Canys yn gymmaint ag i'r byd yn ei ddoethineb ei hun fethu adnabod Duw o fewn cylch y diriogaeth lle yr arddangosai Ei ddoethineb mewn natur a rhagluniaeth, gan fethu gweled Ei natur a'i berffeithderau anweledig yn y pethau a welir, fe welodd Duw yn dda,” &c. Eraill (Alford, Rückert, &c.), “Yn ol goruchwyliaeth, cynllun a threfniad doeth Duw, nid adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw,” &c. Eraill a roddant yr un ystyr i ddoethineb yn y ddau le, gan ei wneyd yn gyfystyr âg athroniaeth, damcaniaeth. “Canys yn ei ddamcaniaeth am Dduw, methodd y byd trwy y cyfryw ddoethineb [damcaniaeth] ei adnabod,” &c. Yn ol hyn y mae Duw yn wrthrych ac nid yn ffynnonnell y ddoethineb., fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn a bregethir#1:21 Kêrugma, nid y weithred o bregethu, ond sylwedd y pregethu. gadw y rhai sydd yn credu. 22Yn gymmaint hefyd a bod Iuddewon yn gofyn am arwyddion#1:22 Arwyddion A B א C D F G Brnd., a Groegwyr yn chwilio am ddoethineb: 23eithr yr ydym ni yn pregethu Crist croeshoeliedig, i Iuddewon yn wir yn dramgwydd, ac i genhedloedd#1:23 I genhedloedd א A B C D Brnd. yn ffolineb; 24ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iuddewon a Groegwyr hefyd, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. 25Canys y mae ffolineb#1:25 Llyth., yr hyn sydd ffol, yr hyn sydd wan; gweithred, ymddygiad, neu yn hytrach, peth ffol Duw, sef y groes, cynnyrch yr ewyllys a'r weithred Ddwyfol. Duw yn ddoethach na dynion, a gwendid#1:25 Llyth., yr hyn sydd ffol, yr hyn sydd wan; gweithred, ymddygiad, neu yn hytrach, peth ffol Duw, sef y groes, cynnyrch yr ewyllys a'r weithred Ddwyfol. Duw yn gryfach na dynion.
Safle fydol ei derbynwyr yn brawf o allu yr Efengyl.
26Canys edrychwch ar eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o rai galluog#1:26 Dunatoi, rhai galluog, dylanwadol, dynion mewn swyddi uchel fel gwleidyddwyr, &c., nad llawer o bendefigion#1:26 Eugeneis, rhai o enedigaeth uchel, disgynyddion o hen deuluoedd urddasol., a elwir: 27eithr ffol‐bethau#1:27 Defnyddir y rhyw canolog i ddangos distadlrwydd a gwaeledd etholedigion Duw, yn ol cyfrifiad y byd. y byd a ddewisodd#1:27 Yn llawn, ‘a ddewisodd Duw allan iddo ei hun,’ y llais canolog. Duw, fel y cywilyddiai efe y doethion; a gwan‐bethau y byd a ddewisodd#1:27 Yn llawn, ‘a ddewisodd Duw allan iddo ei hun,’ y llais canolog. Duw, fel y cywilyddiai efe y pethau cedyrn; 28a phethau distadl#1:28 Agenê, yn wrth‐gyferbyniol i eugeneis, o waed isel, iselwael, difonedd. y byd a phethau dirmygedig#1:28 Llyth., pethau y gwnelid dim o honynt, a ystyrid yn ddim, a ddirmygid. a ddewisodd#1:28 Yn llawn, ‘a ddewisodd Duw allan iddo ei hun,’ y llais canolog. Duw; pethau#1:28 Pethau nad ydynt o un cyfrif yng ngolwg y byd; y rhai ym marn dynion ydynt o cyn lleied o bwys a phe na fodolent. nad ydynt, fel y dirymmai y pethau sydd: 29fel nad ymffrostiai un cnawd ger bron Duw#1:29 Duw א A B C D Brnd.; ef C.. 30Eithr o hono ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn ddoethineb i ni oddiwrth#1:30 Apo, ar ran (Duw). Dduw, ac hefyd yn gyfiawnder, ac yn sancteiddhâd, ac yn brynedigaeth#1:30 Rhai a feddyliant fod y pedwar, doethineb, cyfiawnder, sancteiddhâd, a phrynedigaeth yn gyd‐raddol a chofrestrol; eraill a ystyriant y tri olaf fel yn syrthio o dan y blaenaf. Y mae Crist i ni yn gyfiawnder, &c. trwy ei fod i ni yn ddoethineb Duw. Y mae yr Apostol wedi dangos fod Efengyl Crist yn ddoethineb ac yn allu. Enwir doethineb yma, a chynnwysir gallu yn y tri phenawd, cyfiawnder, sancteiddhâd, prynedigaeth. Dengys cyfiawnder weithred Duw trwy iawn Crist yn symmud y ddedfryd gollfarnol oddiar y troseddwr. Golyga hagiasmos weithred yr Yspryd yn sancteiddio y credadyn. Dynoda y gair hwn sancteiddhâd, tra y golyga hagiosunê purdeb, sancteiddrwydd (Rhuf 1:4; 2 Cor 7:1). Cyfiawnder yw gwaith Crist drosom, sancteiddhâd yw ei waith ynom. Y brynedigaeth yma yw yr hyn gwblheir yn ein gwaredigaeth hollol o bechod a thrueni. Y mae yn gyfystyr a bywyd tragywyddol.: 31fel megys yr ysgrifennwyd:
Yr hwn sydd yn ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied#1:31 Aralleiriad o Jer 9:23, 24 a 1 Sam 2:10, LXX. Jehofa ein Cyfiawnder, Jer 33:16..

ที่ได้เลือกล่าสุด:

1 Corinthiaid 1: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้