Salmydd 19
19
SALM XIX.
M. H. Lancaster. Winchester.
1Mynega ’r nefoedd fawredd Duw,
Creawdwr y ffurfafen yw;
2A nos wrth nos, a dydd wrth ddydd
O hyd yn son am dano sydd.
* 3Ehed y son, er nad oes iaith,
4I holl eithafoedd daear faith;
5Yr haul ar wedd priodfab llon
A chwydda ’r mawl yn don ar don.
Ymlawenycha megys cawr
I’w yrfa ogylch nefoedd fawr;
6Oruchel genad er ein lles,
Nid ymgudd dim oddiwrth ei wres.
Mor nerthol yw, ac eto gwn
Am un grymusach haul na hwn;
7Y gair a ddaeth o enau Duw
A gwyd yr enaid marw ’n fyw.
Y gwirion ddyn yn ddoeth a wna,
8Y galon drist a lawenha;
10Na’r diliau mêl melysach yw,
A gwell na’r aur pureiddiaf ryw.
11-12Teifl hwn oleuni oddifry
I ogofeydd fy nghalon ddu;
13Glanha fi, Arglwydd, rho fi’n rhydd
Oddiwrth fy nghyfeiliornad cudd.
14Rhag pechu ’n erbyn goleu ’r nef
Attal fi, Arglwydd, a llaw gref;
Boed f’ ymadroddion a fy mryd
O’th flaen yn gymeradwy i gyd.
ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖
Salmydd 19: SC1885
គំនូសចំណាំ
ចែករំលែក
ចម្លង
ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.