Salmydd 15

15
SALM XV.
7.6. Ramah. Bremen.
1O! Arglwydd yn dy babell
Pa fath ryw ddyn a drig,
Ac ar dy fynydd sanctaidd
Breswylia heb dy ddig?
2Yr hwn a rodia’n berffaith,
A chyfiawn waith a wnel,
A’r hwn o wraidd ei galon
A draetha’r gwir heb gêl.
3A’i dafod nid absena,
I’w gyd‐ddyn ni wna ddrwg,
Ac enllib pan ei clywa
Ddistawa gyda gŵg;
4Yr hwn ddirmyga’r dryg‐ddyn,
Gan barchu’r duwiol rai,
A’r hwn pan dwng i’w niwed
I’w air yn ffyddlon sai’.
5Ei arian ar usuriaeth
Ni roes i wasgu’r gwan,
A gwobr anghyfiawnder
Ni ddaeth erioed i’w ran;
Yn ddiau nid ysgogir
Y gŵr a wnelo hyn;
Preswylia yn y babell
Ar Seion, sanctaidd fryn.

ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖

Salmydd 15: SC1885

គំនូស​ចំណាំ

ចែក​រំលែក

ចម្លង

None

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល