Salmydd 13

13
SALM XIII.
8.8. Dresden.
1Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi,
A’th wynebpryd rhagof guddi?
2Aml ac ofer yw’m cynghorion,
Blinder beunydd sy’n fy nghalon.
3Edrych arnaf, clyw fy ngweddi,
Ac i’m llygaid dod oleuni,
4Rhag i’m gelyn, os gogwyddaf,
Gael ymorfoleddu arnaf.
5Ymddiriedaf i’th drugaredd,
Yn dy allu mae ’ngorfoledd;
Ac i’r Arglwydd llawen ganaf
Byth am iddo synio arnaf.

ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖

Salmydd 13: SC1885

គំនូស​ចំណាំ

ចែក​រំលែក

ចម្លង

None

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល