Psalmau 53
53
Y LIII Psalm. Ynglyn garhir oferfesur.
1Ynfyd gwyr dhoedyd anfoes yw galon
Ni wyr gelu drygfoes
Duw nid oes.
Pa son am dhynion a dhiv ynwyd dinerth
Daeoni nis gwnaethpwyd?
Pawb llygrwyd.
2Or netoedh Duw oedh da ion diesgus
Yn disgwyl gweithredion
Plant dynion.
Oes dyn ae hedwyn a hyder mowredh
A ymoralw bob amser
Duw an ner.
3I ffordh front troesont trowsi anoeth iawn
Ni wnaeth vn yleni
Dhaeoni.
4Anghall didheuall adhawer er hynn
Ydyw rhain bob amler
Yskeler.
Bwyta fal bars bawb oedh yn alaeth
Ni alwant Dhuw nefoedh
Om pobloedh.
5Ofnant dechrynnant dechrevnos dyfnach
Daw ofni dhiwedhnos
Heb achos.
Oe far e wasgar esgyrn ith erbyn
Faith oerbwnk rhyfel-chwyrn
Y kedyrn.
Yn dostur Duw pur peri i gwnevthur
Gwnn waethwaeth galedi
Kwilydhi.
6Pwy o Seton honn sydh wlad hael vchod
A r[y]dh iechyd diwael
Ir Israel.
Pann dynni geli argoelion gorcheff
O garchar gelynion
Dy dhynion.
Llawenydh a fydh o fael oll yno
Llawenach Iago hael
Ar Israel.
ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖
Psalmau 53: SC1595
គំនូសចំណាំ
ចែករំលែក
ចម្លង

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.