Psalmau 18
18
Y Psalm. XVIII. Gwawdodyn Byrr.
1Dvw hoff im kalon tirion fyred
Dy ofyn adhas Duw ly nodhed:
Duw ’nghasiell am kel, nim kolled am twr
Duw fyngwaredwr kyflwr am ked
2Dvw fyngbraig kadarn ym a farned
Difai ym orig Dvw fymwared:
Dvw ’nharian kyfan kofied’am korn pres,
Dvw yw fylloches fynwes fwyned.
3Dvw molaf gal waf mwynaf myned;
Dvw ner rhag trablin gwerin gwared:
Dolvriav angav dynged im glassu
Doeth im kwmpassu kelv kaled.
4Dvw, dy elynion tynnion taned
Dvw am ofnassant gwydhant godhed:
5Dvw rhaffav bedhav gwybydhed yn hawdh
Doe am amgylchawdh doe im golched.
Doeth angav maglav yno im mwygled
6Dvw mewn ing gelwais damwain gvled.
Dvw gwaedhais llefais ar lled yn oerach
Dvw llef arw afiach dvll afrised.
Diav yw lysoedh im gwrandawed
Dagrav a llefain dv egr llifed:
Yw glvstiav ’n geiriav egored vnion,
A dhoeth ger i fronn kyfion kofied,
7Daear gerwin waith draw a grynawdh
Isel yw os kaid i sail a esgydwawdh:
Ae symyd hefyd yn hawdh yr owrhan
Yn y dydh egwan Dvw a dhiglawdh.
8Mwg oe ffroen drwy boen ef derbyniawdh
A than oe enav ’n boeth enynawdh:
Ger i fron vnion enwawdh y melldan
Yno gain hvân a gynhevawdh.
9A gloew iawn firagl nef a wyrawdh
Yn dhwys yn gynnwys e dhisgynawdh:
Ag ar bwl gymwl o gawdh i gweled
Hynaws o weithred hwnn a sathrawdh.
10Chervb asgella wg enwawg vnawdh
O gofion degwch yw gefn dygawdh:
Ag yno hvdo lle hedawdh yn gynt
Ar yr asgellwynt gorwynt gyrrawdh.
11Ag o liw kafod y gosodawdh
Ynghylch i bebyll dowyll dvawdh:
Kymylan boran a barawdh gyflwr,
Yn awyr a dwr yn-awr a dawdh:
12Yn wych i lewych ef a olevawdh
Y trwch dowyllwch ef a dy llawdh:
Y kenllysg in mysg kymysgawdh y nos
Yn y mawrwydos ni mawr wadawdh.
13Duw nef ar ol tan a daranawdh,
Duw ner goruchaf gwelaf galwawdh:
A chenllysg terfysg tarfawdh a godhaith,
A n kwyno hir-faith fo an kynhyrfawdh.
14I saethau gorau ef ae gyrrawdh
I gas y gwerin fo ae gwasgarawdh:
Ag amled lluched nis llechawdh ar sigl
A llawn o berigl allan bwrlawdh.
15Eigion y dyf[...]nfor ymegorawdh
A godhyn y byd dadymgudhiawdh:
Yil ofni keli nis kelawdh i lid
I dhig ae ofid ohuw a gofiawdh.
16I law o vchelfronn a dhanfonawdh
Ackw’n hoew eilwaith an kynhaliawdh,
O dhyfndwr y dwr dyrrawdh fi i fyny
Fy mowyd hynnyef am tynnawdh.
17Odhiwrth elynion tynnion tynni
Am kas wyr dyras ni phryderi.
Kaled y rhanned y rheini yw hynt
Im erbyn ydynt mowrboen wedi.
18Buont yn eirwon yn ymhonni
Yn ynghul ad wyth yn ynghledi:
Yr arglwydb kvlwydh keli vchelfawr
Yw y bugail mawr a bagl ymi.
19Ehengawdh tynnawdh pann fynnawdh fi
Oe nawdh achvbawdh medrawdh ymi:
I gariad ae rad heb hir oedi oe fodh
Hynn ym a weithiodh yn Rodh fy rhi.
20Wrth fynghyflownder ir adferi
Ag ar ol puredh, haeledh hwyli:
A weithiais, heb drais drossi am dwylaw,
Ym o hir adhaw yma rhodhi.
21Kedwais heb falais hwyliais heli
Lwybrau gwir arglwydh yr arglwydhi;
Heb wrthod hynod henwi Duw nefoedh;
Ag yno i filoedh gwnn i foli.
22Dy farn yn gyfion o’th haelioni.
A gadwaf innau gwawd a fynni:
Y status wedhus wedhi yr arglwydh,
A gad o wiw swydh a gedwais i.
23Evm vnion gyfion pawb a gofi
Yn dy wydh arglwydh rhwydh yr haedhi
Rag gwedh en wiredh oeri anghysbell
Im gwedi sy well ymgedwais i.
24Wrth fynghyfownder ir adferi
Ag ar ol y puredh haeledh hwyli:
A weithiais heb drais drosi am dwylaw,
Hynod oedh giliaw yn d’wydh geli.
25Wrth y karedig dig nis dygi
Arglwydh karedig tebig wyt ti:
Wrth vwyll a did wyll dywedi ’n wirion
Didowyll fodhion did wyll fydhi.
26Wrth y glan galon y tirioni,
Syberwach glanach wyd o ymglonni
A thrwy dhichell pell pwylli bob dichell:
Hynod yw well well hwnn a dwylli.
27Y bobloedh [...] gadocdh Duw a gedwi
Yd wyt ior enwog dad trueni:
Llygaid llonn beilchion bylchi yu fùan
Yno os daw yngan a ostyngi.
28Fy engel anwyl fyngolevni
Yn dirion union a ennyni:
Duw dad i eirchiad llewyrchi ’n dhidrwch
Ymy dowyllwch oll am delli.
29Ar gais y rhedais heb hir oedi
Duw ydwyd fymhorth am kymhorthi:
Duw ’nghyflwr drwy ’r twr drwyod ti ’n gelfydh
Neidiais dros welydh kevrydh kowri.
30Kyfion dy lwybrav golav geli,
A pherffaith olav dyeiriav di;
Pawb ae ’mdhiriaid rhaid hir oedi weithian
Ynod ae hamkan tarian wyt ti.
31Pa duw yw gwiwdhuw gorau gweidhi?
Ond y g wir arglwydh rhwydh yn rhodhi
Pwy yw Duw gwiwdhuw heb godhi’n brydferth
Ae vnduw ae nerth ond yn Duw ni.
32Duw nef fydh nerthawl hawll holi,
Ku angel o dhawn am kenglodh i:
Gwastadodh gwiliodh Duw geli f’enaid,
Y lle y bu raid fy llwybrau i.
33Fynhraed fal ewig bell or gelli
A mwy la wenydh yma y lvni
Ag yn wr ir twr kyn torri ’r kariad
A gwiw osodiad im gosodi.
34Fynwylo yn rhyfel ffel ni ffaeliyt,
Ydwyd dha ysgol dydi a dhysgyt:
Onerth draw ’nwylaw ynylyt a brâw
Bwa byr styriaw b’ai pres terryt.
35A mawr o hoewdhawn ym y rhodhyt
Diwair ion vcho darian iechyd:
Ath law dehe vlaw y deliyt fi im gwedh
Ackw o iawn haeledh im kynheliyt.
36Y lle da odiaeth yma lledyt
I rodio heb au ar hyd y‐byd:
Fy ncudroed i goed nis gedyd yno
I lithro gwirie hynny a geryt.
37Dilin gelynion ym a honnyt,
O beth na chofiant byth ni chyfyt:
Heb gilio yno enhyt or anrhaith
Naws llwydho y gwaith nes lladh i gyt.
38Trewais a churais keisiwch weryt
O beth na chofiant byth ni chyfyt
Kwympasant syrthiant traws hyt y leni
Dana i boeni dyna benyt.
39Gwisgaist ag erfaist fi o gywirfyt
Erbyn y rhyfel oerboen rhifyt:
Plygaist a chrymaist a chryt yskymyn
Pawb sydh im erbyn gelyn a gwyt.
40Arhodhigydhfav i minnav mynnyt
Fy holl elynion geirwon gyrryt:
Fyng-âlon ae ton tenytaniwair,
Nid ydyw kell wair dydi ae kollyd.
41Lle fant ar dhvw mav boenav benyt
Ni wrendy yntav gorav gwryt:
O chwant y galwant i gyt yr owrhon
Heb gael atebion vnion enhyd.
42Ag fal llvdw ag vlw gwelyt
O flaen gwynt gorwynt di ae gyrryt:
Sethrais hwy methrais fy myd yn aelaw
Fal y briffordh draw teimlaw tomlyt.
43Tynnaist fi om trafferth ydwyt vnion
A rhodhaist gyrraist im penn goron:
A rhoist naf danaf y dynion ffyrnig
Ymayn ysig ym yn weision.
44Pann dhwetwyf gyrrwyfeiriav gwirion,
Ynhwy a tydhant yn vfudhion:
Yn berffaith doethraith dieithron dwedant
Arnaf y gwiliant difethiant don.
45Dieithred ffolied anhoff alon
Yn ffaeliaw kiliaw yn i kalon:
Ymrodhant methant meithion yw kessyll
Ae gyrrv i dowyll y gwyr dvon.
46Bendith dhvw i dhvw yr Idhewon
A geidw wiw evrwalch fynghraig dirion:
Dyrchafer yn ner yn ion an iechyt
A cheid wad hefyt bowyd lle bôn.
47Dvw rhydh ym ryfedh dhialedhion
Danaf gael anaf im gelynion:
Achvbaist kedwaist hockedion geirffraeth
Y dyrfa waeth‐waeth darfu weithion.
48Achvbaist tynnaist rhag tewynion
Gwrthne bwyr herwyr rhai dihirion:
Kipiaist fi mynnaist mwyniondy gampav
O gri kwerylav y gwyr krevlon.
49Molaf Dhvw kanaf deg ackenion
Ymysg kenetloedh bobloedh Bablon:
Moliannaf Dwedaf ar don gyfarwydh
Ith enw oarglwydh rwydh dy rodhion,
50Mowredh i Dhasydh fydh dy f[o]dhion
Mowredh drvgaredh yw ytifedhion:
Brenhinwedh lownedh linon tydh berffaith
Trwy y gwiwdhvw eilwaith tragwydholion.
ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖
Psalmau 18: SC1595
គំនូសចំណាំ
ចែករំលែក
ចម្លង

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.