Rhufeiniaid 16
16
A.D. 60. —
3 Paul yn ewyllysio i’r brodyr annerch llawer; 17 ac yn eu cynghori hwy i ochelyd y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau: 21 ac ar ôl amryw anerchion, yn diweddu gyda moliant a diolch i Dduw.
1Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea: 2Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, #3 Ioan 1:5–6 megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. 3Anerchwch #Act 18:2, 26; 2 Tim 4:19Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu; 4Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd. 5Anerchwch hefyd #1 Cor 16:19; Col 4:15; Philem 2yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw #1 Cor 16:15blaenffrwyth Achaia yng Nghrist. 6Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni. 7Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd #Gal 1:22oeddynt yng Nghrist o’m blaen i. 8Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 9Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 10Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o #16:10 geraint. dylwyth Aristobulus. 11Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o #16:11 geraint. dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 12Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd. 13Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. 14Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt. 15Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt. 16#1 Cor 16:20; 2 Cor 13:12; 1 Thess 5:26; 1 Pedr 5:14Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch. 17Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a #1 Cor 5:9, 11; 2 Thess 3:6, 14; 2 Tim 3:5; 2 Ioan 10chiliwch oddi wrthynt. 18Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr #Phil 3:19eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg. 19Canys #Pen 1:8eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod #Mat 10:16; 1 Cor 14:20yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg. 20A #Pen 15:33Duw’r tangnefedd a #16:20 ysiga.#Gen 3:15sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. #Ad. 24; 1 Cor 16:23; Dat 22:21Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen. 21#Act 16:1; Phil 2:19; 1 Thess 3:2Y mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch. 22Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd. 23Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus. 24#Ad. 20; 1 Thess 5:28Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen. 25#Eff 3:20; Jwdas 24I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad #1 Cor 2:7; Eff 3:5, 9; Col 1:26y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er #16:25 amseroedd tragwyddol.dechreuad y byd; 26Ac #2 Tim 1:10; Titus 1:2, 3; 1 Pedr 1:20yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn #Act 6:7; Pen 1:5 15:18ufudd‐dod ffydd:) 27I #1 Tim 1:17; Jwdas 25Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen.
At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
اکنون انتخاب شده:
Rhufeiniaid 16: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society