Rhufeiniaid 15
15
A.D. 60. —
1 Rhaid i’r cryf gyd‐ddwyn â’r gwan. 2 Na ddylem ni ryngu ein bodd ein hunain, 3 gan na wnaeth Crist hynny; 7 ond derbyn bob un ein gilydd megis y derbyniodd Crist ninnau i gyd, 8 Iddewon, 9 a Chenhedloedd. 15 Paul yn esgusodi ei ysgrifen, 28 ac yn addo ymweled â hwynt, 30 ac yn deisyf eu gweddïau.
1 #
Gal 6:1
Anyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. 2#1 Cor 9:19, 22; 10:24, 33; 13:5; Phil 2:4, 5Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. 3Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, #Salm 69:9Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi. 4Canys #Pen 4:23; 1 Cor 10:11pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith. 5#Pen 12:16; 1 Cor 1:10; Phil 3:16A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd #15:5 Neu, yn ôl esiampl Crist Iesu.yn ôl Crist Iesu: 6Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. 7Oherwydd paham #Pen 14:1, 3derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. 8Ac yr wyf yn dywedyd, #Mat 15:24; Act 3:25, 26wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau: 9Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, #Salm 18:49Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 10A thrachefn y mae yn dywedyd, #Deut 32:43Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda’i bobl ef. 11A thrachefn, #Salm 117:1Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd. 12A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, #Esa 11:1, 10Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd. 13A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân. 14Ac #2 Pedr 1:12; 1 Ioan 2:21yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd. 15Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, #Pen 1:5; 12:3; Gal 1:15; Eff 3:7, 8trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw; 16Fel #Pen 11:13; Gal 2:7, 8, 9; 1 Tim 2:7; 2 Tim 1:11y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai #Esa 66:20; Phil 2:17offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. 17Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw. 18Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, #Pen 1:5; 16:26i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred, 19Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist. 20Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: #2 Cor 10:13, 15, 16fel nad adeiladwn ar sail un arall: 21Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, #Esa 52:15I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant. 22Am hynny hefyd #Pen 1:13; 1 Thess 2:17, 18y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi. 23Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd #Act 19:21; Ad. 32; Pen 1:11bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi; 24Pan elwyf i’r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi #15:24 Neu, o’ch cymdeithas; Gr. â chwi, ad. 32ohonoch. 25Ac yr awr hon #Act 19:21; 24:17yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i’r saint. 26Canys #1 Cor 16:1, 2; 2 Cor 9:2, 12rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem. 27Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid #Pen 11:17os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, #1 Cor 9:11; Gal 6:6hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol. 28Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt #Phil 4:17y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf #15:28 heibio i chwi.heboch i’r Hispaen. 29#Pen 1:11Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist. 30Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac #Phil 2:1er cariad yr Ysbryd, #2 Cor 1:11; Col 4:12ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw; 31#2 Thess 3:2Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai #15:31 heb gredu.anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint; 32#Pen 1:10Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, #Act 18:21; 1 Cor 4:19; Iago 4:15trwy ewyllys Duw, ac y’m cydlonner gyda chwi. 33A #Pen 16:20; 1 Cor 14:33; 2 Cor 13:11; Phil 4:9; 1 Thess 5:23; 2 Thess 3:16; Heb 13:20Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.
اکنون انتخاب شده:
Rhufeiniaid 15: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society