Rhufeiniaid 11

11
A.D. 60. —
1 Na fwriodd Duw ymaith holl Israel; 7 ond rhai a ddewiswyd, er darfod caledu y lleill. 16 Y mae gobaith y troir hwynt. 18 Na ddylai y Cenhedloedd orfoleddu yn eu herbyn hwy; 26 oblegid y mae addewid o’u hiachawdwriaeth hwythau. 33 Bod barnedigaethau Duw yn anchwiliadwy.
1Am hynny meddaf, #Jer 31:37A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys #2 Cor 11:22; Phil 3:5yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin. 2Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn #Pen 8:29a adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd #11:2 Gr. yn Eleias?am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, 3#1 Bren 19:10, 14 O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. 4Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? #1 Bren 19:18Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal. 5#Pen 9:27Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras. 6Ac #Pen 4:4, 5; Gal 5:4; Edrych Deut 9:4os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach. 7Beth gan hynny? #Pen 9:31; 10:3Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a’i cafodd, a’r lleill a #11:7 ddallwyd.galedwyd; 8(Megis y mae yn ysgrifenedig, #Esa 29:10Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, #Esa 6:9; Esec 12:2; Mat 13:14llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw. 9Ac y mae Dafydd yn dywedyd, #Salm 69:22, 23Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt: 10Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser. 11Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr #Act 13:46trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt. 12Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd, a’u lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy? 13Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint #Pen 15:16; Gal 1:16; 2:2, 8; Eff 3:8; 1 Tim 2:7; 2 Tim 1:11â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd; 14Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun, ac #1 Cor 7:16; 9:22; 1 Tim 4:16; Iago 5:20achub rhai ohonynt. 15Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw? 16Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae’r canghennau hefyd felly. 17Ac os #Jer 11:16rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn #11:17 yn eu lle hwynt.yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden; 18#1 Cor 10:12Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. 19Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn. 20Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr #Diar 28:14; Esa 66:2; Phil 2:12ofna. 21Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith. 22Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i’r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, #1 Cor 15:2; Heb 3:6, 14os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, #Ioan 15:2torrir dithau hefyd ymaith. 23A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw #2 Cor 3:16eu himpio hwy i mewn drachefn. 24Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun? 25Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod #11:25 caledwch.dallineb o ran i Israel, #Luc 21:24; Dat 7:9hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn. 26Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, #Esa 59:20; Salm 14:7Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob. 27#Esa 27:9; Jer 31:31 &c; Heb 8:8; 10:16A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt. 28Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau. 29Canys #Num 23:19diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw. 30Canys megis y buoch chwithau gynt yn #11:30 anghredadun.anufudd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy #11:30 anghrediniaeth.anufudd‐dod y rhai hyn; 31Felly hwythau hefyd yr awron a #11:31 anghredasant.anufuddhasant, fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi. 32Canys #Pen 3:9; Gal 3:22Duw a’u caeodd hwynt oll mewn #11:32 anghrediniaeth.anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb. 33O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! #Salm 36:6mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! #Job 11:7a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! 34#Esa 40:13; Jer 23:18; 1 Cor 2:16Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu #Job 36:22pwy a fu gynghorwr iddo ef? 35Neu #Job 35:7; 41:11pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? 36Canys #1 Cor 8:6; Col 1:16ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. #11:36 I’r hwn y.Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.

اکنون انتخاب شده:

Rhufeiniaid 11: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید