Rhufeiniaid 10

10
A.D. 60. —
5 Bod yr ysgrythur lân yn dangos y rhagor sydd rhwng cyfiawnder y gyfraith a’r hwn sydd o ffydd; 11 ac na chywilyddir neb a gredo, pa un bynnag ai Iddew ai cenedl‐ddyn fyddo; 18 ac y derbyn y Cenhedloedd y gair, ac y credant. 19 Nad oedd y pethau hyn anhysbys i’r Iddewon.
1O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd #10:1 ar eu bod yn gadwedig.er iachawdwriaeth. 2Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, #Act 21:20; 22:3; Pen 9:31fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth. 3Canys hwynt‐hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. 4Canys #Gal 3:24Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu. 5Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, #Lef 18:5; Esec 20:11, 13, 21; Gal 3:12Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt. 6Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; #Deut 30:12, 13Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:) 7Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,) 8Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? #Deut 30:14Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; 9Mai #Mat 10:32; Act 8:37os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. 10Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth. 11Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, #Esa 28:16; 49:23; Jer 17:7Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. 12Canys #Pen 3:22nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid #Act 10:36; Pen 3:29; 1 Tim 2:5yr un Arglwydd ar bawb, #Eff 1:7; 2:4, 7sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno. 13#Joel 2:32; Act 2:21Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. 14Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr? 15A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, #Esa 52:7Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus! 16Eithr #Heb 4:2nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, #Esa 53:1; Ioan 12:38 O Arglwydd, pwy a gredodd i’n #10:16 pregethiad.hymadrodd ni? 17Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. 18Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? #Salm 19:4; Mat 24:14; Col 1:6, 23Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd. 19Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, #Deut 32:21Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi. 20Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, #Esa 65:1Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf. 21Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, #Esa 65:2Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.

اکنون انتخاب شده:

Rhufeiniaid 10: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید