Numeri 36

36
1 Bod yn rhaid i etifeddesau 5 briodi yn eu llwythau eu hunain; 7 rhag symudo yr etifeddiaeth oddi wrth y llwyth. 10 Merched Salffaad yn priodi meibion eu hewythr frawd eu tad.
1Pennau‐cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a cherbron y penaduriaid, sef pennau‐cenedl meibion Israel; 2Ac a ddywedasant, #Pen 26:55; 33:54Yr Arglwydd a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a’m #Pen 27:1, 7; Jos 17:3, 4harglwydd a orchmynnwyd gan yr Arglwydd, i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched. 3Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni. 4A phan fyddo #Lef 25:10y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni. 5A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn. 6Dyma y #36:6 peth.gair a orchmynnodd yr Arglwydd am ferched Salffaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd. 7Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun. 8A #1 Cron 23:22phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Israel bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun. 9Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun. 10Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth merched Salffaad. 11#Pen 27:1Canys Mala, Tirsa, a Hogla, a Milca, a Noa, merched Salffaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd. 12#36:12 Heb. rai oeddynt o. I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad. 13Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Israel, trwy law Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 36: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید