Deuteronomium 1

1
1 Araith Moses yn niwedd y ddeugeinfed flwyddyn, yn adrodd ar fyr eiriau yr holl ystori, 6 am addewid Duw, 13 am osod swyddogion arnynt, 19 am ddanfon yr ysbïwyr i chwilio y wlad, 34 am ddigofaint Duw am eu hanghrediniaeth, 41 a’u hanufudd‐dod hwy.
1Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r #1:1 Neu, Suff. môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab. 2(Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades‐barnea.) 3A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt; 4#Num 21:24, 33Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei; 5O’r tu yma i’r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon, gan ddywedyd. 6Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, #Edrych Exod 19:1; Num 10:11Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn: 7Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl #1:7 Heb. gymdogion.gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates. 8Wele, #1:8 gosodais.rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i #Gen 12:7; 15:18; 17:7, 8; 26:4; 28:13Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hôl hwynt.
9A #Exod 18:18mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi: 10Yr Arglwydd eich Duw a’ch lluosogodd chwi; ac wele #Gen 15:5chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd. 11(#2 Sam 24:3Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a’ch bendithio, #Gen 15:5; 22:17; 26:4; Exod 32:13fel y llefarodd efe wrthych!) 12Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi? 13Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi. 14Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist. 15Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u #1:15 Heb. rhoddais.gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi. 16A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr, a #Ioan 7:24bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i #Lef 24:22frawd, ac a’r dieithr sydd gydag ef. 17#Lef 19:15; Pen 16:19 1 Sam 16:7; Diar 24:23; Iago 2:1Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid #2 Cron 19:6y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a’i gwrandawaf. 18Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.
19A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy’r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac #Num 13:26a ddaethom i Cades‐barnea. 20A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni. 21Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.
22A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o’n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt. 23A’r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac #Num 13:3mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth. 24A #Num 13:23hwy a droesant, ac a aethant i fyny i’r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a’i chwiliasant ef. 25Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni. 26#Num 14:1Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw. 27Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, Am gasáu o’r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha. 28I ba le yr awn i fyny? ein brodyr #1:28 Heb. doddasant ein calonnau.a’n digalonasant ni, gan ddywedyd, #Num 13:28, 32, 33Pobl fwy a #1:28 thalach.hwy na nyni ydynt; #Pen 9:1dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion #Num 13:28yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno. 29Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy. 30#Exod 14:14, 25; Neh 4:20Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid; 31Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel #Pen 32:11, 12; Esa 46:3, 4; 63:9; Hos 11:3y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma. 32Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw, 33#Exod 13:21Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, #Num 10:33; Esec 20:6i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmwl. 34A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd, 35#Num 14:22; Salm 95:11Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi; 36#Jos 14:9Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a’i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos #Num 14:24cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd. 37#Num 20:12; 27:14; Pen 3:26; 4:21; 34:4Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi, gan ddywedyd, Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno. 38Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel. 39Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt‐hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchenogant hi. 40Trowch chwithau, ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch. 41Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, #Num 14:40Pechasom yn erbyn yr Arglwydd: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd. 42A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion 43Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i’r mynydd. 44A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnâi #Salm 118:12gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma. 45A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr Arglwydd: ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi. 46Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen.

اکنون انتخاب شده:

Deuteronomium 1: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید