Numeri 35
35
1 Rhoddi wyth dref a deugain a’u pentrefi i’r Lefiaid, a’u mesur. 6 Chwech o’r rhai hynny yn drefydd noddfa. 9 Cyfraith llawruddiaeth: 31 ac nas gellir ei ddiwygio.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddywedyd 2#Jos 14:3, 4; 21:2Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i’r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasoedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o’u hamgylch. 3A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt; a’u pentrefol feysydd fyddant i’w hanifeiliaid, ac i’w cyfoeth, ac i’w holl fwystfilod. 4A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch. 5A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas, o du’r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua’r deau ddwy fil o gufyddau, a thua’r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua’r gogledd ddwy fil o gufyddau; a’r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd. 6Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, bydded #Deut 4:41; Jos 20:2; 21:3, 21chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo’r llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg. 7Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a’u pentrefol feysydd. 8A’r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: #Pen 26:54oddi ar yr aml eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd.
9A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 10Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, #Deut 19:2; Jos 20:2Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan; 11Yna #Exod 21:13gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd. 12A’r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn. 13Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa. 14#Deut 4:41; Jos 20:8Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy. 15I feibion Israel, ac i’r dieithr, ac i’r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd, ffoi yno. 16Ac #Exod 21:12, 14; Lef 24:17os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw. 17Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, y trawodd ef, a’i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw. 18Neu os efe a’i trawodd ef â llawffon, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, a’i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw. 19Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef, efe a’i lladd ef. 20Ac #Deut 19:11os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw; 21Neu ei daro ef â’i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a’i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef. 22Ond os yn ddisymwth, #Exod 21:13heb alanastra, y gwthia efe ef, neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad; 23Neu ei daro ef â charreg, y byddai efe farw o’i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef: 24Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn. 25Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed, a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, #Exod 29:7; Lef 4:3; 21:10yr hwn a eneiniwyd â’r olew cysegredig. 26Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi; 27A’i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd; #35:27 Heb. ni bydd gwaed iddo.na rodder hawl gwaed yn ei erbyn: 28Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr archoffeiriad: ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad, dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth. 29A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau. 30Pwy bynnag a laddo ddyn, #Deut 17:6; 19:15; Mat 18:16; 2 Cor 13:1; Heb 10:28wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw. 31Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw. 32Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth yr offeiriad; 33Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn #Micha 4:11a haloga’r tir: #35:33 Heb. ac nid eill bod dim iawn dros y tir.a’r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a’i tywalltodd. 34Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol: canys myfi yr Arglwydd ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion Israel.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 35: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society