Numeri 30

30
1 Na ellir torri addunedau: 3 ond adduned morwyn ieuanc, 6 gwraig briod, 9 gwraig weddw, a’r ysgaredig.
1A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd. 2#Deut 23:21; Preg 5:4Os adduneda gŵr adduned i’r Arglwydd, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na #30:2 thorred.haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o’i enau. 3Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd, a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuenctid; 4A chlywed o’i thad ei hadduned, a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o’i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif. 5Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o’i holl addunedau, a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri. 6Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan #30:6 Heb. oedd ei haddunedau arni.addunedodd, neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi; 7A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant. 8Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a’r Arglwydd a faddau iddi. 9Ond adduned y weddw, a’r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni. 10Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw; 11A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif. 12Ond os ei gŵr gan ddiddymu a’u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau, o’i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gŵr a’u diddymodd hwynt; a’r Arglwydd a faddau iddi. 13Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio’r enaid, ei gŵr a’i cadarnha, a’i gŵr a’i diddyma. 14Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt. 15Ac os efe gan ddiddymu a’u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi. 16Dyma y deddfau a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gŵr a’i wraig, a rhwng tad a’i ferch, yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 30: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید