Numeri 31

31
1 Ysbeilio y Midianiaid, a lladd Balaam. 13 Moses yn ddig wrth y swyddogion, am gadw y gwragedd yn fyw. 19 Pa fodd y glanheir y milwyr, a’u carcharorion, a’u hysglyfaeth. 25 Y modd y mae rhannu yr ysbail. 48 Yr offrwm ewyllysgar i drysordy yr Arglwydd.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2#Pen 25:17Dial feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny #Pen 27:13ti a gesglir at dy bobl. 3A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i’r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr Arglwydd ar Midian. 4#31:4 Heb. Mil o lwyth, mil o lwyth.Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel. 5A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel. 6Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a’r #Pen 10:9utgyrn i utganu yn ei law. 7A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses; ac #Deut 20:13; Barn 21:11; 1 Sam 27:9; 1 Bren 11:15, 16a laddasant #Edrych Barn 6:1, 2, 33bob gwryw. 8Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda’u lladdedigion eraill: sef #Jos 13:21Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: #Jos 13:22Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf. 9Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl dda hwynt, a’u holl olud hwynt. 10Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â thân. 11A #Deut 20:14chymerasant yr holl ysbail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail. 12Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a’r caffaeliad, a’r ysbail, i’r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
13Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll 14A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel. 15A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi #Edrych Deut 20:13; 1 Sam 15:3bob benyw yn fyw? 16Wele, #Pen 25:2hwynt, trwy #Pen 24:14; 2 Pedr 2:15air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a #Pen 25:9bu pla yng nghynulleidfa yr Arglwydd. 17Am hynny #Barn 21:11lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr, trwy orwedd #31:17 Heb. â gwryw.gydag ef. 18A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi. 19Ac #Pen 5:2arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a #Pen 19:11 &cphob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion. 20Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.
21A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses: 22Yn unig yr aur, a’r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a’r plwm; 23Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy’r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir #Pen 19:9, 17â’r dwfr neilltuaeth: a’r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig. 24A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll.
25A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26Cymer nifer yr ysbail #31:26 Heb. o’r gaethglud.a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa: 27A #Jos 22:8; 1 Sam 30:24rhanna’r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth, a’r holl gynulleidfa. 28A chyfod deyrnged i’r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth; #Edrych Pen 31:30, 47; Pen 18:26un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynnod, ac o’r defaid. 29Cymerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd. 30Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, o’r eidionau, o’r asynnod, ac o’r #31:30 Neu, geifr, neu, praidd.defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, #Pen 3:7, 8, 25, 31, 36y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd. 31A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 32A’r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid, 33A deuddeg a thrigain mil o eidionau, 34Ac un fil a thrigain o asynnod, 35Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau. 36A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant; 37A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain. 38A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain. 39A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd un a thrigain. 40A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain. 41A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad, #Edrych Pen 18:11, 19megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 42Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr, 43Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant; 44Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain; 45Ac o’r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant; 46Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg. 47Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
48A’r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd: 49A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom. 50Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i’r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd. 51A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll. 52Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i’r Arglwydd, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau. 53(#Deut 20:14Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.) 54A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 31: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید