Numeri 29

29
1 Yr offrymau ar ŵyl yr utgyrn, 7 ar y dydd y cystuddiant eu heneidiau, 13 ac ar wyth niwrnod gŵyl y pebyll.
1Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: #Lef 23:24dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi. 2Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith‐gwbl: 3A’u bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; 4Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 5Ac un bwch geifr yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch: 6Heblaw #Pen 28:11poethoffrwm y mis, a’i fwyd‐offrwm, a’r #Pen 28:3poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
7Ac #Lef 16:29; 23:27ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo. 8Ond offrymwch boethoffrwm i’r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: #Pen 28:19byddant berffaith‐gwbl gennych. 9A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; 10Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 11Un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw #Lef 16:3, 5pech‐aberth y cymod, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’u diod‐offrymau.
12Ac #Lef 23:33ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod. 13Ac #Esra 3:4offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl. 14A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o’r ddau hwrdd; 15A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg: 16Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.
17Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 18A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, #Pen 29:3, 4, 9, 10; Pen 28:7, 14wrth y ddefod: 19Ac un bwch geifr, yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm a’u diod‐offrymau.
20Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl: 21A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, #ad. 18wrth y ddefod: 22Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.
23Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl: 24Eu bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 25Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.
26Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 27A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod; 28Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.
29Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 30A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 31Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.
32Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 33A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod: 34Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.
35Ar yr wythfed dydd, #Lef 23:36uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo. 36Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 37Eu bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustach, a chyda’r hwrdd, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 38Ac un bwch yn bech‐aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm. 39Hyn a #29:39 Neu, offrymwch.wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau; heblaw eich #Lef 7:11, 16addunedau, a’ch offrymau gwirfodd, gyda’ch offrymau poeth, a’ch offrymau bwyd, a’ch offrymau diod, a’ch offrymau hedd. 40A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 29: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید