Lefiticus 3

3
1 Yr aberth hedd o eidion, 6 o’r praidd: 7 naill ai oen, 12 ai gafr.
1Ac os #Pen 7:11, 29; 22:18, 21aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw. 2A #Exod 29:10rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch. 3Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef #Exod 29:13y weren fol, a’r holl wêr a fydd ar y perfedd; 4A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r #3:4 Neu, llengig.rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau. 5A #Pen 6:12llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
6Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl. 7Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd. 8A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch. 9Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 10A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 11A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: #Edrych Pen 21:6, 7, 8, 21, 22; 22:25; Esec 44:7; Mal 1:7, 12bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.
12Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd. 13A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch. 14Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 15A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 16A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. #Pen 7:23, 25Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd. 17Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim #Gen 9:4; Pen 7:23, 26; 17:10, 14; Deut 12:16; 1 Sam 14:33; Esec 44:7gwaed.

اکنون انتخاب شده:

Lefiticus 3: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید