Genesis 36
36
2 Tair gwraig Esau. 6 Ei symudiad ef i fynydd Seir. 9 Ei feibion. 15 Y dugiaid a ddaethant o’i feibion ef. 20 Meibion a dugiaid Seir. 24 Ana yn cael mulod. 31 Brenhinoedd Edom. 40 Y dugiaid a ddaethant o Esau.
1A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom. 2#Pen 26:34Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac #ad. 25Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad; 3#Pen 28:9Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth. 4Ac #1 Cron 1:35Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel. 5Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan. 6Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a’i feibion, a’i ferched, a holl #36:6 Heb. eneidiau.ddynion ei dŷ, a’i anifeiliaid, a’i holl ysgrubliaid, a’i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i’r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob. 7#Pen 13:6, 11Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo: ac #Pen 17:8; 28:4nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid. 8Felly y trigodd Esau ym #Jos 24:4mynydd Seir: Esau yw Edom.
9A dyma genedlaethau Esau tad #36:9 Heb. Edom.yr Edomiaid ym mynydd Seir. 10Dyma enwau meibion Esau: #1 Cron 1:35, &cEliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau. 11A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, #36:11 Seffi, 1 Cron 1:36Seffo, a Gatam, a Chenas. 12A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau. 13A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.
14Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.
15Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf‐anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas, 16Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.
17A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.
18Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau. 19Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.
20 #
1 Cron 1:38
Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana. 21A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom. 22A meibion Lotan oedd Hori, a #36:22 Homam, 1 Cron 1:39Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna. 23A dyma feibion Sobal; #36:23 Alian, 1 Cron 1:40Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam. 24A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd #Edrych Lef 19:19y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad. 25A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana. 26Dyma hefyd feibion Dison; #36:26 Amram, 1 Cron 1:41Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran. 27Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac #36:27 Jacan, 1 Cron 1:42Acan. 28Dyma feibion Disan; Us ac Aran. 29Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana, 30Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.
31 #
1 Cron 1:43
Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel. 32A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba. 33A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef. 34Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef. 35A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith. 36Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef. 37A bu Samla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef. 38A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef. 39A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a #36:39 Hadad, a Pai, 1 Cron 1:50Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab. 40A dyma enwau y #1 Cron 1:51dugiaid o Esau, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau; dug Timna, dug #36:40 Neu, Alia.Alfa, dug Jetheth, 41Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon, 42Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar, 43Dug Magdiel, dug Iram. Dyma y dugiaid o Edom, yn ôl eu preswylfeydd, yng ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad #36:43 Heb. Edom.yr Edomiaid.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 36: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society