Genesis 22
22
1 Profi Abraham i aberthu ei fab. 3 Yntau yn dangos ei ffydd a’i ufudd‐dod. 11 Yr angel yn ei rwystro ef. 13 Newid Isaac am hwrdd. 14 Galw y lle Jehofah‐jire. 15 Bendithio Abraham drachefn. 20 Cenhedlaeth Nachor hyd Rebeca.
1Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw #Heb 11:17brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 2Yna y dywedodd Duw, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir #2 Cron 3:1Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
3Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho. 4Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell. 5Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch. 6Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd. 7A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae #22:7 mynn.oen y poethoffrwm? 8Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd: 9Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac #Iago 2:21a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. 10Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab; 11Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 12Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi. 13Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab. 14Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw #22:14 Sef, Yr Arglwydd a edrych, neu, a ddarpara.JEHOFAH‐jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.
15Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd; 16Ac a ddywedodd, #Salm 105:9; Luc 1:73; Heb 6:13I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab: 17Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a #Pen 13:16chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar #22:17 fin.lan y môr; #Pen 24:60a’th had a feddianna borth ei elynion; 18Ac #Pen 12:3; 18:18; 26:4; Act 3:25; Gal 3:8, 16, 18yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i. 19Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer‐seba: ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba.
20Darfu hefyd, wedi’r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug #Pen 11:29Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd; 21Hus ei gyntaf‐anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram, 22A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel. 23A #Pen 24:15Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham. 24Ei ordderchwraig hefyd, a’i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 22: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society