Genesis 21

21
1 Genedigaeth Isaac, 4 a’i enwaediad. 6 Llawenydd Sara. 9 Bwrw Agar ac Ismael allan. 15 Agar mewn cyfyngdra. 17 Yr angel yn ei chysuro hi. 22 Cynghrair rhwng Abimelech ac Abraham yn Beer‐seba.
1A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara #Pen 17:19; 18:10, 14fel y llefarasai. 2Oherwydd Sara #Act 7:8; Gal 4:22; Heb 11:11a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef. 3Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) #Pen 17:19Isaac. 4Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; #Pen 17:10, 12fel y gorchmynasai Duw iddo ef. 5Ac #Pen 17:1, 17Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6A Sara a ddywedodd, #Esa 54:1; 66:10; Gal 4:27Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi. 7Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef. 8A’r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, #Gal 4:29yn gwatwar. 10A hi a ddywedodd wrth Abraham, #Gal 4:30; Edrych Pen 25:6; 36:6, 7Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac. 11A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd #Rhuf 9:7; Heb 11:18yn Isaac y gelwir i ti had. 13Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef #Pen 16:10; 17:20; ad. 18yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef. 14Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba. 15A darfu’r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd. 16A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd. 17A Duw a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe. 18Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â’th law; oblegid #ad. 13myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. 19A #Num 22:31; Edrych 2 Bren 6:17, 18, 20; Luc 24:16, 31Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddiododd y llanc. 20Ac yr oedd Duw gyda’r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa. 21Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.
22Ac yn yr amser hwnnw, #Pen 20:2Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur. 23Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na #21:23 Heb. ddywedi gelwydd wrthyf.fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi. 24Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf. 25Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr #Edrych Pen 26:15, 18, 20, 21, 22a ddygasai gweision Abimelech trwy drais. 26Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw. 27Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau. 28Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain. 29Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain? 30Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn. 31Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw #21:31 Sef, ffynnon y llw.Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau. 32Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelsant i dir y Philistiaid.
33Ac yntau a blannodd #21:33 lwyn.goed yn Beer‐seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol. 34Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

اکنون انتخاب شده:

Genesis 21: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید