Exodus 27
27
1 Allor y poeth‐offrwm, a’i llestri. 9 Cynteddfa y tabernacl wedi ei gau â llenni ac â cholofnau. 18 Mesur y cynteddfa. 20 Yr olew i’r lamp.
1Gwna hefyd #Pen 38:1allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn #27:1 bedwar‐sgwâr.bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd. 2A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn: a #Edrych Num 16:38gwisg hi â phres. 3Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres. 4A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl. 5A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor. 6A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres. 7A dod ei throsolion trwy’r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi. 8Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel #Pen 25:40; 26:30y #27:8 Heb. dangosodd.dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.
9A #Pen 38:9gwna cynteddfa’r tabernacl ar y tu deau, tua’r deau: llenni’r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys. 10A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian. 11Felly o du’r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.
12Ac i led y cynteddfa, o du’r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg. 13A lled y cynteddfa, tua’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain. 14Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair. 15Ac i’r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a’u tair mortais.
16Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais. 17Holl golofnau’r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.
18Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres. 19Holl lestri’r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.
20A #Lef 24:2gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp #27:20 Heb. ddyrchafu.losgi yn wastad. 21Ym mhabell y cyfarfod, #Pen 26:31, 33o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna #Pen 30:8; 1 Sam 3:3; 2 Cron 13:11Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, gerbron yr Arglwydd: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 27: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society