Exodus 26
26
1 Deg llen y tabernacl. 7 Yr un llen ar ddeg o flew geifr. 14 Y babell‐len o grwyn hyrddod. 15 Byrddau y tabernacl, gyda’u morteisiau a’u barrau. 31 Y wahanlen i’r arch. 36 Y gaeadlen i’r drws.
1 #
Pen 36:8
Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: yn geriwbiaid o #26:1 Heb. waith y cywraint.gywreinwaith y gwnei hwynt. 2Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni. 3Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd. 4A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad. 5Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd. 6Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.
7A #Pen 36:14gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei. 8Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a’r un mesur fydd i’r un llen ar ddeg. 9A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla’r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len. 10A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad. 11A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma’r babell‐len, fel y byddo yn un. 12A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni’r babell‐len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl; 13Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du, a chufydd o’r tu arall, o hyd y babell‐len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o’r tu yma ac o’r tu acw, i’w orchuddio. 14A #Pen 36:19gwna do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
15A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll. 16Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen. 17Bydded #26:17 Heb. dwy law.dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau’r tabernacl. 18A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu deau tua’r deau. 19A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno. 20A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, ugain ystyllen, 21A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall. 22Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen. 23A dwy ystyllen a wnei i gonglau’r tabernacl, yn y ddau ystlys. 24A byddant wedi eu #26:24 cyd‐blethu.cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant. 25A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
26Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl, 27A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tua’r gorllewin. 28A’r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr. 29Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur. 30A chyfod y tabernacl #Pen 25:9, 40; Act 7:44; Heb 8:5wrth ei bortread, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
31A #Pen 36:35gwna #2 Cron 3:14; Mat 27:51; Heb 9:3wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi. 32A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng #Heb 9:2, 3y cysegr a’r cysegr sancteiddiolaf. 34Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf. 35A #Heb 9:2gosod y bwrdd o’r tu allan i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu deau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du’r gogledd. 36A #Pen 36:37gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith. 37A gwna i’r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a #Pen 36:38gwisg hwynt ag aur; a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 26: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society