Deuteronomium 5
5
1 Y cyfamod yn Horeb. 6 Y deg gorchymyn. 22 Moses, ar ddeisyfiad y bobl, yn derbyn y gyfraith gan Dduw.
1A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, #5:1 Heb. i’w.a’u gwneuthur. 2#Exod 19:5Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb. 3#Edrych Mat 13:17; Heb 8:9Nid â’n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw. 4#Exod 19:9, 19Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân, 5(Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys #Exod 19:16; 20:18ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i’r mynydd,) gan ddywedyd,
6 #
Exod 20:2 &c; Lef 26:1; Salm 81:10 Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y #5:6 Heb. gweision.caethiwed. 7Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. 8Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear: 9Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, #Exod 34:7yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; 10#Jer 32:18Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. 11#Lef 19:12; Mat 5:33Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 12Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 13#Exod 23:12; 35:2; Esec 20:12Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 14Ond y seithfed dydd yw #Gen 2:2; Heb 4:4Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr‐ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun. 15A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth.
16 #
Lef 19:3; Pen 27:16; Eff 6:2, 3; Col 3:20Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 17#Mat 5:21Na ladd. 18#Luc 18:20Ac na wna odineb. 19#Rhuf 13:9Ac na ladrata. 20Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 21Ac #Rhuf 7:7na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog.
22Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond #Exod 24:12ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes ataf fi. 23#Exod 20:19A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi; 24Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; #Exod 19:19a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, #Pen 4:33; Barn 13:22a byw ohono. 25Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn. 26Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw? 27Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a #Exod 20:19; Heb 12:19llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny. 28A’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: #Pen 18:17da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant. 29#Pen 32:29; Salm 81:13; Esa 48:18; Mat 23:37O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol! 30Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll. 31Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi 32Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: #Jos 1:7na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy. 33Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 5: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society