Deuteronomium 6
6
1 Diwedd y gyfraith yw ufudd‐dod. 3 Annog i ufuddhau.
1A dyma’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych #6:1 Heb. yn myned trosodd.yn myned iddi i’w meddiannu: 2Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
3Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn #Exod 3:8gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 4#Marc 12:29; Ioan 17:3; 1 Cor 8:4, 6Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd. 5#Pen 10:12; Mat 22:37; Marc 12:30; Luc 10:27Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth. 6#Pen 11:18; Salm 37:31; 40:8; 119:98; Esa 51:7A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon. 7A #Pen 4:9; 11:19#6:7 Heb. hoga, neu, llymha.hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny. 8A #Exod 13:9, 16; Diar 3:3; 6:21; 7:3rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. 9#Pen 11:20; Esa 57:8Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth. 10Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg #Salm 105:44y rhai nid adeiledaist, 11A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, #Pen 8:10 &cwedi i ti fwyta, a’th ddigoni; 12Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr Arglwydd, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y #6:12 Heb. caethwyr, neu, gweision.caethiwed. 13Yr Arglwydd dy Dduw #Pen 10:12, 20; 13:4; Mat 4:10; Luc 4:8a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef #Salm 63:11; Esa 45:23; 65:16; Jer 4:2; 5:7; 12:16y tyngi. 14Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi: 15(Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di,) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.
16 #
Mat 4:7; Luc 4:12 Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, #Exod 17:2; Num 20:3, 4fel y temtiasoch ef ym Massa. 17Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti. 18A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi’r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di; 19#Num 33:52Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd. 20Pan ofynno dy fab i ti #6:20 Heb. y fory.wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi? 21Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft #Exod 3:19; 13:3â llaw gadarn. 22Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni; 23Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni. 24A’r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr Arglwydd ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn. 25A #Rhuf 10:3, 5chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchmynnodd efe i ni.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 6: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society