Deuteronomium 4

4
1 Annog y bobl i ufudd‐dod. 41 Moses yn apwyntio y tair dinas noddfa, o’r tu hwnnw i’r Iorddonen.
1Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar #Lef 19:37; 20:8; 22:31y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi. 2#Pen 12:32; Jos 1:7; Diar 30:6; Preg 12:13; Dat 22:18, 19Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi. 3Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am #Num 25:4 &c; Jos 22:17Baal‐peor; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal‐peor, yr Arglwydd dy Dduw a’i difethodd ef o’th blith di. 4Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddiw oll. 5Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu. 6Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw #Job 28:28; Salm 111:10; Diar 1:7eich doethineb, a’ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon. 7Oblegid #2 Sam 7:23pa genedl mor fawr, yr hon y mae #Salm 46:1; 145:18; 148:14; Esa 55:6 Duw iddi yn nesáu ati, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno? 8A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi? 9Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond #Gen 18:19; Pen 6:7; 11:19; Salm 78:5, 6hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion: 10Sef #Exod 19:9, 16; 20:18; Heb 12:18y dydd y sefaist gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion. 11A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r #Exod 19:18mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd #4:11 Heb. galon y nefoedd.entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew. 12A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais. 13Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef #Exod 34:28y dengair; ac #Exod 24:12a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.
14A’r #Exod 21:1 Arglwydd a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu. 15Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb, o ganol y tân,) 16Rhag ymlygru ohonoch, a #Exod 20:4, 5gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwryw neu fenyw, 17Llun #Rhuf 1:23un anifail a’r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr, 18Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear; 19Hefyd rhag #Pen 17:3; Job 31:26dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef #Gen 2:1holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd. 20Ond yr Arglwydd a’ch cymerodd chwi, ac #1 Bren 8:51; Jer 11:4a’ch dug chwi allan o’r pair haearn, o’r Aifft, #Exod 19:5i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn. 21#Num 20:12; Pen 1:37A’r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth. 22Oblegid #Edrych 2 Pedr 1:13, 14, 15byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno. 23Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll #Exod 20:4, 5a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 24Oblegid #Pen 9:3; Esa 33:14; Heb 12:29yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw #Exod 20:5; Esa 42:8eiddigus.
25Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef; 26#Esa 1:2; Micha 6:2Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir. 27A’r Arglwydd #Lef 26:33; Pen 28:62; Neh 1:8a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi atynt: 28Ac #Pen 28:64; Jer 16:13yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, #Salm 115:4, 5; 135:15; Esa 44:9; 46:7y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt, ac nid aroglant. 29#Lef 26:39; Pen 30:1; 2 Cron 15:4; Neh 1:9Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid. 30Pan gyfyngo arnat, a #4:30 Heb. a chael o’r holl bethau hyn di.digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef: 31(Oherwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfamod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt. 32Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac #Mat 24:31o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef: 33#Exod 24:11; 33:20A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw? 34A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, #Pen 7:19; 29:3trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid? 35Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, #Pen 32:39; Esa 45:5, 18, 22; Marc 12:29, 32nad oes neb arall ond efe. 36#Exod 19:9, 19; 20:18, 22; 24:16; Heb 12:18O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef. 37Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac #Exod 13:3, 9, 14a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aifft: 38I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw. 39Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr #Jos 2:11 Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall. 40Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.
41Yna Moses #Num 35:6, 14a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul; 42#Pen 19:4I gael o’r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o’r blaen; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny, a byw: 43Sef #Jos 20:8Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan y Manassiaid.
44A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel; 45Dyma’r tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aifft: 46Tu yma i’r Iorddonen, #Pen 3:29yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn #Num 21:24; Pen 1:4a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aifft: 47Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad #Num 21:33; Pen 3:3Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul; 48O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Seion, hwn yw #Pen 3:9; Salm 133:3Hermon; 49A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan #Pen 3:17#4:49 Ffynhonnau.Asdoth‐pisga.

اکنون انتخاب شده:

Deuteronomium 4: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید