Deuteronomium 26

26
1 Cyffes yr hwn a offrymo y cawell blaenffrwyth. 12 Gweddi yr hwn a roddo ei ddegymau y drydedd flwyddyn. 16 Y cyfamod rhwng Duw a’r bobl.
1A phan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a’i feddiannu, a phreswylio ynddo; 2#Exod 23:19; 34:26; Pen 16:10Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo: 3A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i’r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni. 4A chymered yr offeiriad y cawell o’th law di, a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw: 5A llefara dithau, a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, #Hos 12:12Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac #Gen 46:1efe a ddisgynnodd i’r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml. 6A’r #Exod 1:11Eifftiaid a’n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled. 7A #Exod 2:23phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a’n llafur, a’n gorthrymder. 8#Exod 12:37A’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau. 9Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl. 10Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd: a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 11Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i’th deulu, tydi, a’r Lefiad, a’r dieithr a fyddo yn dy fysg.
12Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn sef #Pen 14:28blwyddyn y degwm; yna y rhoddi i’r Lefiad, i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bwytaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt. 13A dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Dygais y peth cysegredig allan o’m tŷ, ac a’i rhoddais ef i’r Lefiad, ac i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o’th orchmynion ac nis anghofiais. 14Ni fwyteais ohono yn fy ngalar, ac ni ddygais ymaith ohono i aflendid, ac ni roddais ohono dros y marw: gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi. 15#Esa 63:15; Sech 2:13Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o’r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a’r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
16Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon, ac â’th holl enaid. 17Cymeraist yr Arglwydd heddiw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef. 18#Exod 19:5; Pen 7:6; 14:2Cymerodd yr Arglwydd dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ohonot ei holl orchmynion: 19Ac i’th wneuthur #Pen 4:7, 8; 28:1yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.

اکنون انتخاب شده:

Deuteronomium 26: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید