Deuteronomium 27
27
1 Gorchymyn y bobl i ysgrifennu y gyfraith ar gerrig; 5 ac i wneuthur allor o gerrig cyfain. 11 Rhannu y llwythau ar fynydd Garisim ac Ebal. 14 Cyhoeddi y melltithion ar fynydd Ebal.
1Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw. 2A bydded, yn y dydd #Jos 4:1yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, #Jos 8:32osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch. 3Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt. 4A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch. 5Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: #Exod 20:25; Jos 8:31na chyfod arnynt arf haearn. 6A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i’r Arglwydd dy Dduw. 7Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 8Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.
9A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw. 10Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
11A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd, 12Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin. 13#Pen 11:29; Jos 8:33A’r rhai hyn a safant #27:13 Heb. yn felltith.i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.
14 #
Dan 9:11
A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel, 15#Exod 20:4, 23; 34:17; Lef 19:4; 26:1; Pen 4:16, 23; 5:8Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylo crefftwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant, #1 Cor 14:16; Edrych Jer 11:5Amen. 16#Exod 20:12; 21:17; Lef 19:3Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen. 17#Pen 19:14; Diar 22:28Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen. 18#Lef 19:14Melltigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen. 19#Exod 22:21, 22; Pen 10:18Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen. 20#Lef 18:8; Pen 22:30Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen. 21#Lef 18:23Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen. 22#Lef 18:9Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen. 23#Lef 18:17; 20:14Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i #27:23 mam yng nghyfraith.chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen. 24#Exod 20:13; 21:12, 14; Lef 24:17; Num 35:31; Pen 19:11Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen. 25#Exod 23:8; Pen 10:17; 16:19 Esec 22:12Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen. 26#Jer 11:3; Gal 3:10Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 27: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society