Deuteronomium 25
25
1 Na rodder ychwaneg na deugain gwialennod. 4 Na chauer safn yr ych. 5 Am godi had i frawd. 11 Am y wraig ddigywilydd. 16 Am bwysau anghyfiawn. 17 Rhaid yw dileu coffadwriaeth Amalec.
1Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius. 2Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi. 3#2 Cor 11:24Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a’i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.
4 #
Diar 12:10; 1 Cor 9:9; 1 Tim 5:18 Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu.
5 #
Mat 22:24; Marc 12:19; Luc 20:28 Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ati, a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr. 6A bydded i’r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel. 7Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i’r porth at yr henuriaid, a dyweded, #Ruth 4:7Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i’w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi. 8Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi fodlon i’w chymryd hi; 9Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded, Felly y gwneir i’r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd. 10A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid.
11Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr â’i frawd, a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef; 12Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.
13 #
Lef 19:35, 36; Esec 45:10 Na fydded gennyt yn dy god #25:13 Heb. garreg a charreg. Exod 16:36amryw bwys, mawr a bychan. 14Na fydded gennyt yn dy dŷ #25:14 Heb. effa ac effa.amryw fesur, mawr a bychan. 15Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 16Canys #Diar 11:1ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn, sef pawb a’r a wnêl anghyfiawnder.
17 #
Exod 17:8
Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o’r Aifft: 18Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o’th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe Dduw. 19Am hynny bydded, #2 Sam 15:3pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 25: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society