Deuteronomium 24
24
1 Am ysgar. 5 Nad rhaid i’r gŵr newydd briodi fyned i ryfel. 6, 10 Am wystlon. 7 Am ladron dynion. 8 Am y gwahanglwyf: 14 talu cyflog, 17 barn, 19 ac elusen.
1Pan #Mat 5:31; 19:7; Marc 10:4gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw #24:1 Heb. noethni.aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr #24:1 Heb. torri ymaith.ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. 2Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall: 3Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo: 4#Jer 3:1Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.
5 #
Pen 20:7
Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac #24:5 Heb. nac aed dim arno.na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.
6Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.
7 #
Exod 21:16
Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.
8Gwylia ym #Lef 13; Lef 14mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy. 9Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i #Num 12:10Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aifft.
10Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef. 11Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti. 12Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â’i wystl gyda thi. 13#Exod 22:26Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac #Job 31:20y’th fendithio di: a #Edrych Salm 106:31bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr‐ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 15Yn ei ddydd #Lef 19:13; Jer 22:13; Iago 5:4y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac #24:15 Heb. ato y dyrchafa ei enaid.â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot. 16#2 Bren 14:6; 2 Cron 25:4; Jer 31:29, 30; Esec 18:20Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17 #
Exod 22:21, 22; Diar 22:22; Esa 1:23; Jer 5:28; 22:3; Esec 22:29; Sech 7:10 Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad; ac #Exod 22:26na chymer ar wystloraeth wisg y weddw. 18Ond #ad. 22meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19 #
Lef 19:9; 23:22 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo. 20Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 21Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 22#ad. 18Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 24: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society