Deuteronomium 14

14
1 Na ddylai plant Duw eu hanffurfio eu hunain wrth alaru. 3 Pa beth a ellir, a pha beth nis gellir ei fwyta, 4 o anifeiliaid, 9 o bysgod, 11 o adar. 21 Ni ellir bwyta yr hyn a fo farw ei hun. 22 Degymau gwasanaeth Duw. 23 Y degymau a’r cyntaf‐anedig i ymlawenychu ger bron yr Arglwydd. 28 Degwm y drydedd flwyddyn yn elusen.
1Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: #Lef 19:28; 21:5; Jer 16:6; 41:5; 47:5; 1 Thess 4:13na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw. 2#Pen 7:6; 26:18Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
3Na fwyta ddim ffiaidd. 4#Lef 11:2 &cDyma’r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr, 5Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwyllt, a’r #14:5 Heb. dishon.unicorn, a’r #14:5 bual.ych gwyllt, a’r afr wyllt. 6A phob anifail yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. 7Ond hyn ni fwytewch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarnog, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi’r ewin, aflan ydynt i chwi. 8Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi’r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o’u cig hwynt, ac #Lef 11:27na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.
9 # Lef 11:9 Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch. 10A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.
11Pob aderyn glân a fwytewch. 12A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt: yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr‐wennol, 13A’r bod, a’r barcud, a’r fwltur yn ei rhyw, 14A phob cigfran yn ei rhyw, 15A chyw yr estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw, 16Aderyn y cyrff, a’r dylluan, a’r gogfran, 17A’r pelican, a’r biogen, a’r fulfran, 18A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r #Lef 11:19ystlum. 19A #Edrych Lef 11:21phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt. 20Pob ehediad glân a fwytewch.
21Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i’r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. #Exod 23:19; 34:26Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 22#Pen 12:6, 17Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn. 23A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, #Pen 15:19, 20ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser. 24A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw: 25Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 26A dod yr arian am yr hyn oll a #14:26 Heb. of yno dy galon gennyt.chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu. 27A’r #Pen 12:19Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am #Num 18:20; Pen 18:1nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.
28 # Pen 26:12 Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth. 29A’r Lefiad, (am #ad. 27nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel #Edrych Mal 3:10y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law.

اکنون انتخاب شده:

Deuteronomium 14: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید