Deuteronomium 13
13
1 Y rhai a hudo i ddelw‐addoliaeth, 6 er nesed a fônt i ti, 9 rhaid yw eu llabyddio. 12 Nad arbeder y dinasoedd lle y bo gau‐dduwiaeth.
1Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, 2A dyfod i ben o’r #Edrych Pen 18:22; Jer 28:9; Mat 7:22arwydd, neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; 3Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich #Pen 8:2; Edrych Mat 24:24; 1 Cor 11:19; 2 Thess 2:11; Dat 13:14profi chwi, i wybod a ydych yn caru’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. 4Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef #Pen 10:20a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch. 5A’r #Pen 18:20; Jer 14:15; Sech 13:3proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd #13:5 Heb. dychweliad yn erbyn yr Arglwydd.i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. #Pen 22:21, 22, 24; 1 Cor 5:13Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.
6 #
Pen 17:2
Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu #Edrych Gen 16:5; Pen 28:54; Diar 5:20; Micha 7:5wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau; 7Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i’r tir hyd gwr arall y tir: 8Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno: 9Ond #Pen 17:7gan ladd lladd ef; bydded #Act 7:58dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny. 10A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y #13:10 Heb. caethion.caethiwed. 11A #Pen 17:13holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.
12Pan glywech am un o’th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd, 13#1 Ioan 2:19; Jwdas 19Aeth dynion, meibion #13:13 Neu, Belial. Edrych Barn 19:22; 1 Sam 2:12; 25:25; 2 Cor 6:15y fall, allan o’th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch; 14Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg; 15Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; #Lef 27:28; Jos 6:17difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf. 16A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl, i’r Arglwydd dy Dduw, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy. 17Ac #Pen 7:26na lyned wrth dy law di ddim o’r #13:17 Neu, peth melltigedig.diofryd‐beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau: 18Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, #Pen 12:25, 32gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 13: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society