Deuteronomium 2

2
1 Moses yn myned rhagddo yn yr ystori; ac yn dangos, nad oedd iddynt hwy a wnaent â’r Edomiaid, 9 na’r Moabiaid, 17 na’r Ammoniaid; 24 ond gorchfygu a wnaethant Sehon yr Amoriad.
1Yna y troesom, ac yr aethom i’r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, #Num 14:25; Pen 1:40fel y dywedasai yr Arglwydd wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer. 2Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf, gan ddywedyd, 3#Edrych Pen 2:7, 14Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua’r gogledd. 4A gorchymyn i’r bobl, gan ddywedyd, #Num 20:14 Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch: ond ymgedwch yn ddyfal. 5Nac ymyrrwch arnynt: oherwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymaint â #2:5 Heb. lled gwadn troed.lled troed; #Gen 36:8; Jos 24:4canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir; 6Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch. 7Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi; ni bu arnat eisiau dim. 8Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion‐gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab. 9A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na #2:9 Neu, wna elyniaeth â.orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef; oherwydd i #Gen 19:37feibion Lot y rhoddais #Num 21:28Ar yn etifeddiaeth. 10(#Gen 14:5Yr Emiaid o’r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel #Num 13:22, 33yr Anaciaid; 11Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid. 12#Gen 14:6; 36:20Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen; a meibion Esau a #2:12 Heb. a’i hetifeddasant.ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a’u difethasant o’u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt.) 13Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros #2:13 Neu, ddyffryn.#Num 21:12afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared. 14A’r dyddiau y cerddasom o #Num 13:26Cades‐barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt. 15Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt, i’w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.
16A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd, 17Lefaru o’r Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, 18Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar: 19A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth #Gen 19:38i feibion Lot. 20(Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o’r blaen; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy #Gen 14:5 Susiaidyn Samsummiaid: 21Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a’r Arglwydd a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt. 22Fel y gwnaeth i feibion Esau, #Gen 32:3y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn; 23Felly am #Jos 13:3yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, #Gen 10:14y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a’u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)
24Cyfodwch, cychwynnwch, ac #Num 21:13, 14ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a’i wlad ef; #2:24 Heb. dechrau, meddianna.dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef. 25Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.
26A #Num 21:21, 22; Barn 11:19mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth, at Sehon brenin Hesbon, #Pen 20:10 â geiriau heddwch, gan ddywedyd, 27Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i’r tu deau nac i’r tu aswy. 28Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf; 29(#Edrych Pen 23:3, 4; Barn 11:17, 18Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a’r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i’r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni. 30Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid #Jos 11:20yr Arglwydd dy Dduw #Exod 4:21a galedasai ei ysbryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddiw y gwelir. 31A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di: dechrau feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef. 32#Num 21:23Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel yn Jahas. 33Ond #Pen 7:2; 20:16yr Arglwydd ein Duw a’i rhoddes ef o’n blaen; ac #Pen 29:7ni a’i trawsom ef, a’i feibion, a’i holl bobl: 34Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac #Lef 27:28a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un yng ngweddill. 35Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom. 36#Jos 13:9O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o’r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a’r a ddihangodd rhagom: yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni. 37Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl lan afon #Gen 32:22Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i’r holl leoedd a waharddasai yr Arglwydd ein Duw i ni.

اکنون انتخاب شده:

Deuteronomium 2: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید