Actau’r Apostolion 23
23
A.D. 60. —
1 Paul yn ateb drosto ei hun. 2 Ananeias yn gorchymyn ei daro ef. 7 Ymryson ym mysg ei gyhuddwyr ef. 11 Duw yn ei gysuro ef. 14 Yr Iddewon yn cynllwyn iddo; 20 a dangos hynny i’r pen‐capten: 27 yntau yn ei anfon ef at Ffelix y rhaglaw.
1A Phaul, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd, Ha wŷr frodyr, #Pen 24:16; 2 Tim 1:3mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddiw. 2A’r archoffeiriad Ananeias a archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, #1 Bren 22:24; Jer 20:2; Ioan 18:22ei daro ef ar ei enau. 3Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a’th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y ddeddf, a #Lef 19:35; Deut 25:1, 2chan droseddu’r ddeddf yn peri fy nharo i? 4A’r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw? 5A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, #Exod 22:28Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl. 6A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r llall o’r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, #Pen 24:15, 21; 26:5; Phil 3:5Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: #Pen 24:21; 26:6am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i. 7Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws. 8#Mat 22:23; Marc 12:18; Luc 20:27Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o’r ddau. 9A bu llefain mawr: a’r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, #Pen 25:25; 26:31Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr #Pen 22:7, 17, 18os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, #Pen 5:39nac ymrysonwn â Duw. 10Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y pen‐capten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i’r milwyr fyned i waered, a’i gipio ef o’u plith hwynt, a’i ddwyn i’r castell. 11#Pen 18:9Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd. 12A phan aeth hi yn ddydd, #Pen 23:21, 30rhai o’r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a’u rhwymasant eu hunain #23:12 dan felltith.â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul. 13Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai a wnaethant y cynghrair hwn. 14A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul. 15Yn awr gan hynny hysbyswch gyda’r cyngor i’r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i’w ladd ef. 16Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i’r castell, ac a fynegodd i Paul. 17A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo. 18Ac efe a’i cymerth ef, ac a’i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a’m galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt. 19A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o’r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi? 20Ac efe a ddywedodd, #Ad. 12Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i’r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. 21Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, #23:21 Neu, fwytaent ac nad yfent.na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti. 22Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo #23:22 Gwel na ddywedych i neb ddangos ohonot y pethau hyn i mi.na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef. 23Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o’r nos; 24A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw. 25Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma: 26Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch. 27#Pen 21:33Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â’i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd. 28A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a’i dygais ef i waered i’w cyngor hwynt: 29Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am #23:29 gwestiynau.arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau. 30A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr, myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach. 31Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris. 32A thrannoeth, gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelsant i’r castell: 33Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef. 34Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd; 35Mi a’th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.
اکنون انتخاب شده:
Actau’r Apostolion 23: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society