Actau’r Apostolion 22
22
A.D. 60. —
1 Paul yn adrodd yn helaeth y modd y trodd ef i’r ffydd, 17 ac y galwyd ef i fod yn apostol. 22 Y bobl, wrth glywed crybwyll am y Cenhedloedd, yn llefain yn ei erbyn: 24 yntau ar fin cael ei fflangellu; 25 ac eto yn dianc, trwy ddweud am ei ddinas‐fraint Rhufeinig.
1 #
Pen 7:2
Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron. 2(A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,) 3#Pen 21:39; 2 Cor 11:22Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon #Deut 33:3; Luc 10:39wrth draed #Pen 5:34Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, #Gal 1:14yn dwyn sêl i Dduw, #Rhuf 10:2fel yr ydych chwithau oll heddiw. 4#Pen 8:3A mi a erlidiais #Pen 9:2y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd. 5Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i’w cosbi. 6Eithr #Pen 9:3; 26:12digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch. 7A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid? 8A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. 9Hefyd #Pen 9:7; Dan 10:7y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. 10Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur. 11A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, #22:11 Gr. myfi, yn cael fy arwain erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi.a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus. 12Ac #Pen 9:17un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno, 13A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno. 14Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni #Pen 26:16a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i #1 Cor 9:1; 15:8weled #Pen 3:14; 7:52y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef. 15Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. 16Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei #22:16 amcanu?aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd. 17A #Pen 9:26darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg; 18A’i weled ef yn dywedyd wrthyf, #Mat 10:14Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi. 19A minnau a ddywedais, O Arglwydd, #Ad. 4hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti: 20#Pen 7:58; 8:1A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i’w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef. 21Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: #Pen 9:15; 13:2; Gal 1:15; 2:8; Eff 3:8; 1 Tim 2:7; 2 Tim 1:11canys mi a’th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd. 22A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, #Pen 21:36Ymaith â’r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys #Pen 25:24ei fod ef yn fyw. 23Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i’r awyr, 24Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly. 25Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, #Pen 16:37Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd? 26A phan glybu’r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i’r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw’r dyn hwn. 27A’r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie. 28A’r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i’r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol. 29Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei #22:29 arteithio.holi ef: a’r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef. 30A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a’i gollyngodd ef o’r rhwymau, ac a archodd i’r archoffeiriaid a’u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a’i gosododd ger eu bron hwy.
اکنون انتخاب شده:
Actau’r Apostolion 22: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society