Actau’r Apostolion 19
19
A.D. 56. —
6 Rhoddi yr Ysbryd Glân trwy ddwylo Paul. 9 Yr Iddewon yn cablu ei athrawiaeth ef, yr hon a gadarnheir trwy wyrthiau. 13 Y consurwyr Iddewig 16 yn cael eu curo gan y cythraul. 19 Llosgi y llyfrau consurio. 24 Demetrius, o chwant elw, yn codi terfysg mawr yn erbyn Paul: 35 ac ysgolhaig y ddinas yn llonyddu y derfysg.
1A digwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion, 2Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, #Pen 8:16; Edrych 1 Sam 3:7Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, #Pen 18:25I fedydd Ioan. 4A dywedodd Paul, #Mat 3:11; Pen 1:5 11:16Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu. 5A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu. 6Ac wedi i Paul #Pen 6:6; 8:17ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy #Pen 2:4; 10:46a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant. 7A’r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg. 8Ac efe a aeth i mewn i’r synagog, ac a lefarodd yn hy dros dri mis, gan ymresymu a chynghori’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw. 9Eithr #2 Tim 1:15pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am #Edrych Act 9:2; 24:14; Ad. 23y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus. 10A #Edrych Act 20:31hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu. 11A #Marc 16:20; Pen 14:3gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul: 12#Pen 5:15; Edrych 2 Bren 4:29Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a’r clefydau a ymadawai â hwynt, a’r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.
13Yna rhai o’r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, #Edrych Marc 9:38a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. 14Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac archoffeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn. 15A’r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi? 16A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a’u #19:16 meistrolodd.gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o’r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig. 17A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a’r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd. 18A llawer o’r rhai a gredasent a ddaethant, ac #Mat 3:6a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd. 19Llawer hefyd o’r rhai a fuasai yn gwneuthur #19:19 manylwaith.rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a’u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian. 20#Pen 6:7; 12:24Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.
21 #
Rhuf 15:25; Gal 2:1 A phan gyflawnwyd y pethau hyn, #Pen 20:22arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, #Pen 18:21rhaid imi weled Rhufain hefyd. 22Ac wedi anfon i Facedonia ddau o’r #Pen 13:5rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac #Rhuf 16:23; 2 Tim 4:20Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.
23A bu ar #2 Cor 1:8yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y #Edrych Act 9:2ffordd honno. 24Canys rhyw un a’i enw Demetrius, gof arian, yn gwneuthur temlau arian i Diana, oedd yn peri elw #Pen 16:16, 19nid bychan i’r crefftwyr; 25Y rhai a alwodd efe, ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni: 26Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Effesus, eithr agos dros Asia oll, ddarfod i’r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith, wrth ddywedyd #Salm 115:4; Jer 10:3nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo. 27Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni, ddyfod y rhan hon i ddirmyg; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll a’r byd yn ei haddoli. 28A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 29A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r #19:29 theatr, golygfa.orsedd, gwedi cipio #1 Cor 1:14Gaius ac #Pen 20:4; 27:2; Col 4:10Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul. 30A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. 31Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd. 32A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd. 33A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa, a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander #Pen 12:17a amneidiodd â’i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. 34Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 35Ac wedi i #19:35 ysgrifennydd.ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn #19:35 geidwad teml.addoli’r dduwies fawr Diana, a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter? 36A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll. 37Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. 38Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i’w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd. 39Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa #19:39 gyffredin.gyfreithlon y terfynir hynny. 40Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn. 41Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.
اکنون انتخاب شده:
Actau’r Apostolion 19: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society