Actau’r Apostolion 15

15
A.D. 51. —
1 Ymryson mawr yn cyfodi ynghylch yr enwaediad: 6 yr apostolion yn ymgynghori ynghylch hynny; 22 ac yn anfon eu meddwl trwy lythyrau at yr eglwysi. 36 Paul a Barnabas, wedi bwriadu myned i ymweled â’r brodyr, yn amrafaelio, ac yn ymadael â’u gilydd.
1A rhai wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddywedyd, #Gal 5:2; Phil 3:2; Col 2:8, 11, 16Onid enwaedir chwi #Gen 17:10; Lef 12:3yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig. 2A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan #Gal 2:1Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma. 3Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll. 4Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a #Ad. 12; Pen 14:27hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. 5Eithr cyfododd #15:5 eb hwynt, rai, & c.rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.
6A’r apostolion a’r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma. 7Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i #Pen 10:20; 11:12Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu. 8A Duw, #1 Cron 28:9; Pen 1:24adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, #Pen 10:44gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau: 9Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, #Pen 10:43; 1 Cor 1:2; 1 Pedr 1:22gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd. 10Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, #Mat 23:4; Gal 5:1i ddodi iau ar warrau’r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn? 11#Eff 2:8; Titus 3:4Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau.
12A’r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.
13Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi. 14Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o’r Cenhedloedd bobl i’w enw. 15Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig, 16#Amos 9:11, 12Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a’i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a’i cyfodaf eilchwyl: 17Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio’r Arglwydd, ac i’r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn. 18Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed. 19Oherwydd paham #Edrych ad. 28fy marn i yw, na flinom y rhai o’r Cenhedloedd a droesant at Dduw: 20Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt #Exod 20:3; 1 Cor 8:1; 10:20oddi wrth halogrwydd delwau, a #1 Thess 4:3godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac #Gen 9:4; Lef 3:17 oddi wrth waed. 21Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd, rai a’i pregethant ef, #Pen 13:15, 27gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth. 22Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid, ynghyd â’r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr: 23A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a’r henuriaid, a’r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch: 24Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw’r ddeddf; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn: 25Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gytûn, anfon gwŷr etholedig atoch, gyda’n hanwylyd Barnabas a Phaul; 26#Pen 13:50; 14:19Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist. 27Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar #15:27 enau.air a fynegant i chwi yr un pethau. 28Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau angenrheidiol hyn; 29#Pen 21:25Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a #Lef 17:14gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach. 30Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr. 31Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y #15:31 Neu, cyngor.diddanwch. 32Jwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr, ac a’u cadarnhasant. 33Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr apostolion. 34Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno. 35A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia, gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd.
36Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy. 37A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt #Pen 12:12, 25; 13:5; Col 4:10; 2 Tim 4:11; Philem 24Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc. 38Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, #Pen 13:13yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i’r gwaith. 39A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef, ac y mordwyodd i Cyprus: 40Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymaith, #Pen 14:26wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr. 41Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan #Pen 16:5gadarnhau’r eglwysi.

اکنون انتخاب شده:

Actau’r Apostolion 15: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید