Ei Aberth Fawr, Ein Comisiwn MawrSampl

Detholiad: Yna...Hadau Llinach Ysbrydol gan Rob Hoskins.
Wnaeth Iesu ddim marw er mwyn bwydo'r newynog i gyd. Wnaeth Iesu ddim marw er mwyn i'r holl gleifion gael meddyginiaeth. Wnaeth Iesu ddim marwer mwyn gall i'r holl dlodion gael dillad cynnes. Rhoddodd ei fywyd ar Galfaria fel aberth dros ein pechodau, fel y gallai e achub ein holl eneidiau.
Achub eneidiau yw busnes y Tad. Rhoddodd Iesu'r comisiwn hwnnw i ni i gyd pan alwodd e ni'n ffrindiau iddo. Pan fyddwn ni’n dwyn ffrwyth dros y deyrnas, mae'r ffrwyth hwnnw'n cael ei fesur yn nhermau eneidiau.
Os ydyn ni’n bwydo pob plentyn newynog yn Affrica, ond yn methu â'u dwyn i deyrnas Dduw, dydyn ni ddim wedi gwneud unrhyw ffafrau iddyn nhw - byddan nhw’n dal i dreulio tragwyddoldeb yn uffern. Os ydyn ni’n adeiladu cartref i bob person digartref yn America ond yn methu â'u harwain at Iesu, dydyn ni ddim wedi newid eu dyfodol yn sylweddol - gwahaniad tragwyddol oddi wrth Duw yw eu tynged o hyd. Os cawn ni’r feddyginiaeth orau i ddioddefwyr gwaethaf clefydau a thrychinebau ond methu wrth beidio eu cyflwyno i'r un a all wella eu heneidiau, byddan nhw’n dal i gael eu condemnio am byth.
Ein busnes ni yw busnes ffrwyth ar gyfer teyrnas Dduw, busnes y Tad. Er y dylen ni wneud yr hyn a allwn i leddfu anghenion corfforol ein brodyr a'n chwiorydd yng Nghrist, a'r rhai sydd ar goll hefyd, ein prif bryder yw ein bod ni’n dwyn ffrwyth sy'n para ar gyfer teyrnas nefoedd. Dydy bwyd ddim yn para. Dydy dillad ddim yn para. Dydy meddyginiaeth ddim yn para. Mae eneidiau'n para.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Teithia ffordd wahanol sy'n arwain at y Pasg eleni. Dechreua dy daith gyda chenhadon byd-eang yn y Dwyrain Canol a llywia drwy’r golygfeydd a'r synau a fydd yn dy helpu i brofi'r Pasg o safbwynt hollol newydd. Profa o'r newydd pam y daeth Iesu i'r ddaear hon - i achub eneidiau dynolryw.
More
Hoffem ddiolch i OneHope am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.onehope.net