Ei Aberth Fawr, Ein Comisiwn MawrSampl

Detholiad: Derbyn Gobaith gan Rob Hoskins
Mae fy nhad yn ddall mewn un llygad, ac fel e, dw i ddim ond wedi gallu gweld yn dda o un llygad yn unig ers blynyddoedd. Ond wnaeth dim byd fy mharatoi ar gyfer y bore pan ddeffrais yn methu gweld o fy "llygad da."
Roedd fy retinas yn rhy denau. Roedd un wedi'i ddatgysylltu'n llwyr, ac roedd y llall ar fin datgysylltu. Fe wnaethon nhw lawdriniaeth frys i geisio achub yr un llygad. Ond roedd y llawdriniaeth hon angen chwe wythnos o adferiad, ac yn ystod y chwe wythnos gyfan roedd yn rhaid i mi orwedd ar fy wyneb gyda fy wyneb i lawr i gadw'r retina yn llonydd gan obeithio y byddai'n gwella. Ac nid oedd unrhyw warant o lwyddiant. Fydden nw ddim yn gwybod a oedd wedi gweithio nes i'r chwe wythnos ddod i ben, a minnau'n sefyll i fyny. Roedd pob posibilrwydd y byddwn i'n ddall unwaith y byddwn i'n sefyll. Alla i ddim hyd yn oed ddisgrifio'r ing yn fy nghalon yn ystod yr amser hwn.
Wnaeth y llawdriniaeth gyntaf ddim fy ngwella, a thros flwyddyn gyfan, es i drwy chwe llawdriniaeth.
Dw i'n dal i gofio nyrs yn tynnu'r rhwymynnau ar ôl fy chweched llawdriniaeth. Fel arfer, mae fy llygaid mor ddrwg fel na allaf hyd yn oed ddarllen yr E enfawr ar frig y siart llygaid - alla i ddim ei weld. Wrth i'r rhwymynnau ddod i ffwrdd ac imi edrych ar y siart, gallwn ddarllen pob llythyren. Mae gan Dduw y pŵer i iacháu, ac fe wnaeth fy iacháu.
Gellir geni'r mynegiant mwyaf o'n cenhadaeth "effeithio ar dynged" o'r boen ddyfnaf. Mae'n yr un ffordd ag yr oedd croeshoeliad yn angenrheidiol i ddod â gobaith tragwyddol - i drawsnewid pechod a marwolaeth yn fywyd a rhyddid. Yn yr un ffordd ag yr oedd fy nallelineb a'm blwyddyn o frwydr yn angenrheidiol i drawsnewid fy mywyd a'm gweinidogaeth. Beth sydd wedi bod yn ddallineb i ti, dy awr dywyllaf? Wyt ti wedi caniatáu i Dduw ei drawsnewid yn fuddugoliaeth a'r alwad y mae'n ei bwriadu ar dy gyfer?
Dw i’n dy annog i beidio â gwastraffu un galar ond i geisio cynllun Duw yng nghanol hynny. Nid yw'n gadael i ni ddioddef yn ddiangen, a gall dy ddioddefaint fod y bont i'th dynged.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Teithia ffordd wahanol sy'n arwain at y Pasg eleni. Dechreua dy daith gyda chenhadon byd-eang yn y Dwyrain Canol a llywia drwy’r golygfeydd a'r synau a fydd yn dy helpu i brofi'r Pasg o safbwynt hollol newydd. Profa o'r newydd pam y daeth Iesu i'r ddaear hon - i achub eneidiau dynolryw.
More
Hoffem ddiolch i OneHope am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.onehope.net