Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ei Aberth Fawr, Ein Comisiwn MawrSampl

His Great Sacrifice, Our Great Commission

DYDD 6 O 10

Detholiad: Derbyn Gobaith gan Rob Hoskins
Un diwrnod daeth tîm o'r eglwys leol i'w hysgol gyda rhodd i bob myfyriwr, sef Llyfr y Gobaith. Rhoddodd y credinwyr gyflwyniad i'r myfyrwyr, a oedd yn cynnwys drama fach a gynlluniwyd i ddangos i bobl ifanc fel Elienne faint mae Duw yn eu caru. Hyd heddiw mae Elienne yn ei gofio'n glir.

Yn gyntaf, cynigiodd dyn ifanc lolipop i un o'r myfyrwyr, ond wrth iddo ei roi, fe'i gollyngodd i'r baw, felly roedd yn fudr. Fyddai’r myfyriwr dal ei eisiau? Na, wrth gwrs ddim; roedd yn ffiaidd!

Nesaf, rhoddodd ddoler yn lle'r lolipop, ac eto, wrth iddo fynd i'w roi, fe'i gollyngodd i'r baw. Plygodd a chodi'r ddoler fudr a gofyn a oedd y myfyriwr dal ei eisiau gan ei fod bellach yn fudr i gyd. Ond wrth gwrs, mae doler fudr yn dal i fod yn ddoler, ac wrth gwrs roedd ei eisiau o hyd!

"Esboniodd, er bod y lolipop yn colli ei werth pan fyddai'n fudr, fod pobl ifanc fel fi fel y bil doler i Dduw," cofiai Elienne. "Waeth bynnag faint o weithiau dŷn ni'n syrthio ac yn mynd yn fudr, dydyn ni byth yn colli ein gwerth yng ngolwg Duw. Atgoffodd y dyn ifanc ni fod Duw yn ein caru ni a'n bod ni'n bwysig i'r Un a'n creodd ni."

Am y Cynllun hwn

His Great Sacrifice, Our Great Commission

Teithia ffordd wahanol sy'n arwain at y Pasg eleni. Dechreua dy daith gyda chenhadon byd-eang yn y Dwyrain Canol a llywia drwy’r golygfeydd a'r synau a fydd yn dy helpu i brofi'r Pasg o safbwynt hollol newydd. Profa o'r newydd pam y daeth Iesu i'r ddaear hon - i achub eneidiau dynolryw.

More

Hoffem ddiolch i OneHope am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.onehope.net