Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ei Aberth Fawr, Ein Comisiwn MawrSampl

His Great Sacrifice, Our Great Commission

DYDD 3 O 10

Detholiad: Derbyn Gobaith gan Rob Hoskins
Dw i'n cofio'r stori a adroddodd fy nhad flynyddoedd yn ôl am ŵr o Dde America a dderbyniodd lyfryn bach o'r efengyl gan rai pobl ifanc Cristnogol ar gornel y stryd un diwrnod wrth iddo frysio adref o'r gwaith. Pan welodd ei fod yn llyfryn am Dduw, fe'i rhwygodd a'i daflu i ffwrdd. Ar ryw adeg roedd wedi penderfynu ei fod yn casáu Duw, yr eglwys, ac unrhyw un a oedd yn cynrychioli'r eglwys. (Mae'n bosibl iawn bod ei wrthwynebiad wedi'i waethygu gan y llenyddiaeth Farcsaidd a oedd yn gorlifo America Ladin ar y pryd.)

Ond pan gyrhaeddodd adref y noson honno, daeth ar draws darn o'r llyfryn yn dal i lynu wrth llawes ei grys. Cafodd wared arno ond wnaeth o ddim osgoi gweld beth oedd wedi’i arno: "A dywedodd yr Arglwydd..." Taflodd y darn o bapur i ffwrdd gyda melltith. Ond
roedd yn methu cael gwared ar y frawddeg. "A dywedodd yr Arglwydd..." o’i feddwl.

Drwy gydol ei swper meddyliodd amdano. Wnaeth e ddim hyd yn oed cysgu’n dda y noson honno oherwydd ei fod y frawddeg yn parhau i atseinio yn ei freuddwydion. "A dywedodd yr Arglwydd..."

Y diwrnod canlynol yn y gwaith roedd yr ymadrodd yn dal i boeni ei feddyliau. Wrth iddo frysio adref eto'r noson honno, roedd wrth ei fodd yn gweld yr un tîm o bobl ifanc ar yr un gornel stryd, yn dosbarthu'r un llyfrynnau. Rhuthrodd at un o'r dynion ifanc, a dywedodd, "Os gwelwch yn dda, os gwelwch yn dda dywedwch wrthyf beth ddywedodd yr Arglwydd!"

Gwrandawodd ar neges yr efengyl, cysegrodd ei fywyd i Grist, ac yn ddiweddarach daeth yn weinidog.

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

His Great Sacrifice, Our Great Commission

Teithia ffordd wahanol sy'n arwain at y Pasg eleni. Dechreua dy daith gyda chenhadon byd-eang yn y Dwyrain Canol a llywia drwy’r golygfeydd a'r synau a fydd yn dy helpu i brofi'r Pasg o safbwynt hollol newydd. Profa o'r newydd pam y daeth Iesu i'r ddaear hon - i achub eneidiau dynolryw.

More

Hoffem ddiolch i OneHope am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.onehope.net