Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 3 O 30

Dim ond pan fyddi di'r person y crëwyd Duw i ti fod y byddi’n derbyn y pŵer y mae e wedi’i greu ar dy gyfer. Dw i’n gallu bod yn berson mor anhygoel o emosiynol fel mai’r cwbl y gallaf wneud ar fy mhen fy hun yw meddwl amdanaf i fy hun a’r ffordd dw i’n teimlo. Chefaist ti mo’th greu i fynegi dy emosiynau: cefaist dy greu ar gyfer ffrwyth, ar gyfer gweithredoedd, ar gyfer Teyrnas Dduw ac ar gyfer pŵer!



Mae yna ddau ymadrodd penodol yn yr ysgrythur dŷn ni’n eu darllen heddiw sy’n trawsnewid bywyd ac a fydd yn dy osod ar daith tuag at dy dynged emosiynol. “... yn rhoi nerth i chi” falle yw’r dywediad mwyaf cyffrous yn y Testament Newydd cyfan. Yn rhoi nerth i chi! Does dim rhaid i ti lusgo dy hun drwy fywyd yn dy nerth dy hun! Does dim rhaid iti fod yn fodlon gyda charthion emosiynol a diffygion dy genhedlaeth! Wnei di fyth gymryd awdurdod dros dy hysteria emosiynol nes dy fod yn derbyn pŵer yr Ysbryd Glân.



Yn ”dweud wrth bawb amdana i,” yw’r ail addewid yn yr adnod adnabyddus hon. Mae derbyn pŵer yr Ysbryd Glân yn dy alluogi i fod yr hyn y creodd Duw i ti fod! Rwyt ti angen pŵer Duw fel dy fod yn dod yn dyst o’i natur e yn y cyfnod hwn o hanes. Byddi’n derbyn pŵer i fod yr hyn y bwriadwyd i ti fod!



Fyddi di byth y cwbl fwriadodd Duw i ti fod nes dy fod yn derbyn ei bŵer. Gwyddai Iesu na fyddem n gallu byw bywyd i’w helaethrwydd ar y ddaear heb bŵer yr Ysbryd Glân felly darparodd, yn union, y pŵer hwnnw. Dw i’n cael fy hun yn gweddïo’r weddi hon sawl gwaith yn ystod y dydd am fod yn ddynes mor anobeithiol:

Ysbryd Glân, llenwa fi â’th bŵer! Dw i eisiau’; r cwbl sydd gen ti ar fy nghyfer, dw i eisiau dy roddion a’th ffrwyth. Dw i eisiau dy bŵer fwy na dim byd heddiw. Os wyt ti eisiau imi weddïo am wyrthiau ac iachâd fe wna i hynny, felly dw i’n frwd i fynd ati! Dw i eisiau’r cwbl sydd gen ti Ar fy nghyfer. Dw i eisiau, hefyd, amynedd a hunanreolaeth, yn ogystal ä heddwch a llawenydd a chariad. Dw i’n fodlon derbyn pob dafn o bŵer rwyt ti’n fodlon ei daflu ataf i.



Ac yna beth wyt ti’n ei wneud? Wel... rwyt yn gwneud beth mae pob person llawn emosiwn yn ei wneud - ti’n disgwyl.

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd