Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 1 O 30

Mae’n wirionedd anhygoel. Cefaist dy osod mewn sefyllfa strategol yma, ar yr adeg hon mewn hanes, gan Dduw ar gyfer ei gynlluniau a phwrpasau. Roedd e angen rhywun yn union fel ti i garu’r rhai na ellir eu caru - i ddod â llawenydd i dywyllwch, byd oer - i ddatgelu heddwch mewn sgyrsiau a sefyllfaoedd dryslyd - ac i fod yn garedig mewn cyfnodau pan mae ein diwylliant mor drybeilig o greulon. Roedd angen rhywun yn union fel ti ar Dduw, Creawdwr y Bydysawd, i fod yn optimistaidd drwy’r adeg yng ngwyneb sefyllfaoedd rhwystredig - i obeithio pan nad oedd rheswm am obaith - ac i ddangos amynedd i pobl ystyfnig ac annymunol. Oherwydd fod Duw dy angen, fe’th greodd i ddatgelu ei galon. Y broblem yw, fel ei blant ei hun. Dŷn ni wedi etifeddu gormod o nodweddion genetigol y byd ac wedi cefnu ar briodoliaethau hael Duw, ein Tad cariadus. Y broblem yw, bydde’n well gynnon ni gael ei ffordd ein hunain, nac ei ffordd e. Y broblem yw, bydde’n well gynnon ni gyfleu emosiwn o safbwynt hunanol ar sefyllfa nag arddangos ffrwythau hyfryd a blasus.



Cawsom ein creu gan Dduw i ddatgelu ei galon yn ystod y foment unigol hon ym mhob amser a gofnodwyd. Cawsom ein creu i wneud ei weithredoedd da ond yn lle, dŷn ni wedi penderfynu trawsnewid i mewn i ryw ffurf emosiynol ffug o’r hyn fwriadodd i ni fod. Cawsom ein creu gan Dduw oherwydd bod yna ddiffyg Duwioldeb ar y ddaear, felly ges i a thi ein hanfon. Bydd Duw ond yn datgelu ei Hun trwom ni i'r graddau ein bod ni'n caniatáu iddo lenwi pob cornel o'n calonnau a'n bywydau. Y gwir godidog a thrawiadol yw y gelli di gael cymaint o Dduw ag wyt ti eisiau! Nid yw'r cwestiwn erioed wedi newid o Ardd Eden hyd heddiw. Faint ohono e wyt ti eisiau?
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd