Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 4 O 30

Does gen i ddim atebion hudolus ar gyfer dy emosiynau cynddeiriog, ond mae gen i rywfaint o fewnwelediad i Air Duw i ti. Os wyt ti eisiau pŵer i oresgyn ac os wyt ti'n hiraethu am y gallu i ddod yn berson y creodd Duw ti i fod, yna byddi'n gofyn yn gyntaf am ei allu e. Ar ôl i ti ofyn am y pŵer, byddi’n aros am y pŵer. Tra byddi di'n aros, byddi'n ymroi'n i weddi’n gyson.



Mae gweddi’n fy newid i. Dw i’n berson gwell pan dw i’n gweddïo. Mae’n well gan fy nheulu fi pan dw i’n gweddïo tra dw i’n disgwyl. Pan dw i’n gweddïo dw i’n gwneud penderfyniadau doethach, ac yn fersiwn gwell a nwy caredig ohonof fy hun. Falle’r rheswm nad wyt ti’n hoffi dy hun rhyw lawer yn ystod munudau o ddicter emosiynol yw nad wyt ti wedi profi grym yr ystum o aros. Y bobl fwyaf pwerus dwi'n eu hadnabod yw dynion a merched Duw sy'n caru aros ar eu gliniau. Nid yw penlinio yn sefyllfa ddieithr, anodd i'r bobl hyn sy'n newid hanes oherwydd eu bod yn deall mai pobl sy'n gweddïo mewn gwirionedd yw’r rhai sy’n elwa o bŵer y nefoedd yn eu bywydau bob dydd.



Paid byth â diystyru pwysigrwydd yr amser yr wyt yn ei dreulio bob dydd ar dy liniau, a fydd yn sicr yn dy alluogi i oresgyn dy emosiynau sydd tu allan i reolaeth. Mae emosiynau'n fwriadol, yn ifanc ac weithiau'n dreisgar ac un o'r grymoedd mwyaf pwerus wrth reoli emosiynau person yw amser ar dy liniau. Y mae’r iachâd sydd yn cymryd lle mewn enaid dynol tra y bydd y corff mewn sefyllfa o weddi, yn dragwyddol a gwyrthiol. Ni allaf fod fel Iesu heb dreulio amser yn ei bresenoldeb ar fy ngliniau.



Gallaf "weithredu" fel Iesu heb weddi. Gallaf ennill Gwobr yr Academi am wenu’n felys ac adrodd ys caredig tra bod fy nghalon yn rhuo a fy meddwl am ddial. Er fy mod yn gwybod sut i ddweud y geiriau cywir, efallai y byddi’n sylwi ar y mwg yn dod allan o fy nghlustiau! Nid yw Iesu'n dymuno i mi ymddwyn fel e’n unig, ond mae'n dyheu am i mi fod yn debyg iddo, ac mae yna wahaniaeth digamsyniol. Mae'r gwahaniaeth yn digwydd pan fyddaf yn aros a phan fyddaf yn gweddïo oherwydd dyna pryd y daw e’n Arglwydd fy emosiynau a fy mywyd llawn meddyliau.
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd