Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 2 O 30

Nid ni sydd biau ein bywydau, ac eto, mae Duw wedi rhoi llaw rydd i ni. Dos nôl a darllen y frawddeg gyntaf eto: Nid ni sydd biau ein bywydau, ac eto, mae Duw wedi rhoi llaw rydd i ni. Mae’n un o’r gwrthddywediadau sanctaidd hynny sy’n peri i ni edrych yn benderfynol ar wyneb Duw gyda rhyfeddod llwyr.



Mae’n wir - rwyt yn grefftwaith gan Dduw. Rwyt wedi dy greu yng Nghrist Iesu i un pwrpas yn unig: ar gyfer y gweithredoedd da drefnodd Duw ar dy gyfer yn benodol cyn dechrau amser. Cynllun Duw yw i ti gerdded yn y bywyd fwriadodd ar dy gyfer, a threfnu ymlaen llaw er mantais i ti. Ond, mae’r dewis i fyny i ti. Gelli gael dy ffordd dy hun, neu dilyn ffordd Duw.



Er mai eiddo Duw wyt ti am mai e greodd ti a rhag-ddyluniodd fywyd anhygoel ar dy gyfer, mae e dal wedi rhoi llaw rydd i ti ddewis y bywyd gwyrthiol hwnnw ai peidio. Un o'r achosion mwyaf ymarferol lle dŷn ni'n dewis Duw neu'n dewis ein hunain yw ein hoff bethau a'n harferion emosiynol. Rhaid i ti ildio dy hawl i swnian a phwdu, ac yna gofleidio’n llwyr gynllun Duw ar gyfer dy fywyd, sydd i’w gael yn ffrwyth yr Ysbryd. Cefaist dy greu ar gyfer gweithredoedd da ac nid ar gyfer gweithredoedd y cnawd neu ar gyfer barn dy emosiynau.



Mae’r gweithredoedd a drefnwyd ar dy gyfer, hyd yn oed cyn dy eni, yn gymaint mwy na darllen llyfr defosiynol neu wrando ar gerddoriaeth mawl. Roedd y gweithredoedd da oedd gan Dduw mewn golwg pan feddyliodd amdanat ti mor ogoneddus fel ei fod wedi datgan ar hyd yr oesoedd mai ei grefftwaith ei hun oeddet ti. Mae Duw wedi bod â’i lygad arnat ti ers dechrau amser, i wneud rhywbeth mor rhyfeddol drwy dy fywyd fel bod yr angylion hyd yn oed yn sefyll nôl mewn syndod ac yn hiraethu am wneud yr hyn y cefaist ti dy greu i wneud!
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd