Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Bywyd o DdyfnderSampl

The Deeply Formed Life

DYDD 5 O 5

“Presenoldeb Cenhadol”

Yr Ysgrythur: Mathew 28:16-20; Actau 1:8; 2 Corinthiaid 5:11-21

Mae ein strategaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cyrraedd byd i Grist wedi’i seilio ar y math o bobl dŷn ni’n cael ein ffurfio i mewn iddyn nhw. Ansawdd ein presenoldeb yw ein cenhadaeth. A’r newyddion da yw nad yw Iesu yn aros inni fod yn berffaith cyn ein gwahodd i genhadaeth. I’r gwrthwyneb, mae bod yn “berffaith” yn ein gwneud yn anghymwys ar gyfer partneru â Iesu mewn cenhadaeth.

Pan fyddi di'n darllen y Beibl, byddi’n gweld dro ar ôl tro nad yw Duw yn galw pobl perffaith. Mae Duw yn y busnes o alw pobl toredig, pobl ofnus, pobl penboeth, pobl anghyson, pobl besimistaidd, pobl sy’n amau, fel ti a fi. Jyst edrycha ar ddisgyblion cyntaf Iesu.

Wrth i Iesu gael ei arestio a'i groeshoelio, wnaeth ei ddisgyblion ei adael. Gadawyd e ar ei ben ei hun i ddioddef a marw. Ar ôl ei farwolaeth, ei gladdu a'i atgyfodiad, wnaeth y disgyblion gloi eu hunain mewn ystafell rhag ofn mai nhw fyddai nesaf i farw. Roedd y disgyblion hyn wedi gadael Iesu i lawr. Roedden nhw wedi rhoi'r gorau iddo. Pwy fyddai eisiau'r bobl hyn ar eu tîm? Yr ateb yw neb ond Iesu.

Aeth Iesu yn ôl at ei ddisgyblion, oedd wedi’i adael i lawr, ac yn lle tynnu sylw at eu camgymeriadau, anfonodd e nhw i genhadu. Ar ôl dod wyneb yn wyneb â'i ffrindiau, ‘...dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.” Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân.” ’ (Ioan 20:21-22).

Hyd yn oed pan wyt ti'n gwneud camgymeriadau, paid perfformio, siapia hi, mae Iesu'n dod atat ti ac yn dweud, “Dw i eisiau ti. Dw i'n dy alw di, a dw i'n dy anfon di." Mae Iesu'n gwybod dy broblemau, dy gaethiwed, dy boeniau meddwl, a dy fethiannau, ac er gwaethaf hynny, mae’n gwahodd ti i’r genhadaeth.

Beth yw anghenion mwyaf y bobl sydd agosaf atat ti? Sut gallet ti fod fel Crist iddyn nhw yn y sefyllfaoedd hyn?


Gobeithio y bydd y cynllun hwn wedi dy annog di. Dysga fwy yn yma .

Am y Cynllun hwn

The Deeply Formed Life

Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.richvillodas.com/