Bywyd o DdyfnderSampl

Mae’r straeon am drafferthion hiliol dŷn ni’n eu clywed ac yn eu gweld yn ymddangos yn ddiddiwedd. P'un a yw'r straeon yn cael eu darlledu'n genedlaethol neu'n hysbys i ni yn unig, cawn ein pwyso’n gyson gan y syniadau a’r arferion dinistriol sy’n sefydlu hierarchaethau cynnil ac nid mor gynnil o werth dynol yn seiliedig ar liw croen.
Ond dŷn ni ddim heb help.
Yn graidd i'r efengyl mae “gwneud yn iawn” am bopeth trwy Iesu. Ym marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, mae’r byd wedi’i osod ar lwybr adnewyddiad, ond mae Duw yn ein gwahodd ni yn drugarog i weithio tuag at y dyfodol hwn. Fodd bynnag, nid menter unigol mo'r gwaith hwn; y mae yn un sy’n cael ei drefnu gan ymdrechion ar yu cyd teulu newydd yn nerth yr Ysbryd.
Ystyria ddau o'r disgyblion a gafodd eu galw gan Iesu: Mathew a Simon oedd yn casglu trethi i Rufain (gweler Mathew 10:3-4). Bu Mathew yn gweithio i'r llywodraeth; Roedd Simon yn casáu'r llywodraeth. Roedd Matthew yn gasglwr trethi; protestiwr treth oedd Simon. Casglodd Matthew refeniw i’r Rhufeiniaid; Roedd Simon yn wrthryfelwr yn erbyn y Rhufeiniaid. Roedd Matthew yn gyfoethog; Roedd Simon yn ddosbarth gweithiol. Gwnaeth Mathew fywoliaeth gan fanteisio ar bobl fel Simon; teimlai Simon ei fod yn cael ei alw i geisio lladd pobl fel Matthew.
Er gwaethaf yr holl wahaniaethau hyn, rhywsut roedd Matthew a Simon yn gallu cadw mewn cysylltiad. Ond fe gostiodd rhywbeth iddyn nhw. Bu’n rhaid i Matthew roi’r gorau i fanteisio ar bobl fel Simon; Roedd rhaid i Simon gofleidio gweledigaeth wahanol o chwyldro. Dyma hanfod y teulu newydd roedd Iesu yn ei greu. Bydd cymuned y cymod bob amser yn costio rhywbeth i ni, ac yng Nghrist gall y rhwystrau sy'n ein gwahanu ddymchwel yn ei enw e.
Y tu hwnt i'r deuddeg gwreiddiol, byddai Iesu'n gwahodd merched i fod yn ddisgyblion iddo. Bwddai'n rhoi'r siars i'r disgyblion i gyrraedd pobl nad oedden nhw'n Iddewon. Arweiniodd yr Ysbryd Glân yr eglwys i weld y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu wrth i deulu newydd gael ei ffurfio - ddim yn seiliedig ar hunaniaeth ethnig neu rywedd ond trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu.
" Sdim ots os ydych chi’n Iddew neu’n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu ddinesydd rhydd, gwryw a benyw – dych chi i gyd fel un teulu sy’n perthyn i’r Meseia Iesu." (Galatiaid 3:28). p>Chwilia dy galon am dy ran dy hun mewn rhaniad hiliol, a threulia amser mewn cyffes, edifeirwch a maddeuant.
Am y Cynllun hwn

Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.
More
Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.richvillodas.com/