Bywyd o DdyfnderSampl

“Archwiliad Mewnol”
Mae archwiliad mewnol yn ffordd o fyw sy'n ystyried realiti ein bydoedd mewnol er mwyn ein ffyniant ein hunain a'r alwad i garu yn dda.
Mae llawer o fywyd modern yn gwrthsefyll y math hwn o fyw. Mae llawer o'n dyddiau wedi'u hadeiladu'n strategol ac yn isymwybodol i osgoi edrych o dan yr wyneb. Dŷn ni’n aml yn perthyn i gymunedau eglwysig sy'n atgyfnerthu diffyg mewnsylliad. Dŷn ni’n defnyddio Duw i redeg oddi wrth Dduw, a ddefnyddio Duw i redeg oddi wrth ein hunain.
Yn Salm 139, gwelwn ni galon person sy'n fodel o archwiliad mewnol dwfn: Dafydd. Mae pedair adnod ar ddeg cyntaf y salm yn sôn am wybodaeth Duw o’r ddynoliaeth a Dafydd yn benodol. Ond erbyn diwedd y salm, rwyt ti'n cael yr argraff fod Dafydd yn ymwybodol iawn, er bod Duw yn gwybod popeth amdano fe, nad oedd Dafydd yn gwybod popeth amdano'i hun. Felly mewn geiriau mewnol a chyffes, sgwennodd e,
Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl
treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni
Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le
ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr. (adnodau 23–24)
Mae'r rhan fwyaf ohonon ni eisiau ymwybyddiaeth o Dduw. Ond yr hyn sydd ei angen arnon ni yn ychwanegol yw ymwybyddiaeth o'r hunan. Cadarnhaodd Dafydd fod Duw yn gwybod y cyfan, felly gofynnodd e am ddatguddiad, dim o Dduw ond ohono'i hun. Meddylfryd Dafydd oedd, mynd o dan yr wyneb.
Yn y defosiynau hyd yn hyn, dw i wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwrando. Mae'r ffordd fyfyriol yn ymwneud â gwrando'n ddwfn ar Dduw. Mae ffordd y cymod yn golygu gwrando'n ddwfn ar ein gilydd. Mae'r ffordd o archwilio mewnol yn ymwneud â gwrando'n ddwfn arnon ein hunain.
Pan dŷn ni’n ystyried Salmau a thestunau Beiblaidd eraill fel modelau ar gyfer archwiliad mewnol, dŷn ni’n dechrau gweld y flaenoriaeth sy’n cael ei roi tuag at gael mynediad i, ac integreiddio'r byd oddi mewn. Ond mae'n cymryd rhywfaint o waith. Gwnaeth Dafydd, yn Salm 139, dri pheth yn effeithiol dŷn ni’n cael ei gwahodd i’w ddilyn. Gwnaeth e amser ar gyfer archwiliad mewnol, roedd e wedi’i integreiddio ddigon i ildio ei natur mewnol i Dduw, ac roedd gyda fe 'r dewrder i wynebu ei hun. Beth amdanon ni?
Gofynna i ti dy hun: Heddiw, am beth ydw i'n grac? Yn drist amdano fe? Yn bryderus amdano fe? Falch amdano fe? Gad i’r mewnwelediadau gael mynediad i mewn i ti dy hun i dy arwain di tuag at weddi.
Am y Cynllun hwn

Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.
More
Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.richvillodas.com/