Bywyd o DdyfnderSampl

“Cyfanrwydd Rhywiol”
O’r cychwyn cyntaf, mae’r stori ddynol wedi bod yn un o wrthdaro dwfn a dieithriad â’n cyrff.
Rhoddodd Duw baradwys wedi’i dodrefnu’n llawn i’r bodau dynol cyntaf, Adda ac Efa, a gosod ffin bwysig yn ei lle: Doedden nhw ddim i fod i fwyta o bren gwybodaeth da a drwg. Yn fuan wedyn, daeth sarff i'r olygfa, gan hudo'r cwpl i fwyta o'r goeden. Nawr dŷn ni'n darllen un o'r adnodau mwyaf trasig yn y Beibl: “Yn sydyn roedden nhw’n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw’n noeth. Felly dyma nhw’n rhwymo dail coeden ffigys at ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw’u hunain..” (Genesis 3:7).
Roedd pechod wedi pylu eu golwg, yn eironig, trwy agor eu llygaid. Cyn y foment hon, roedden nhw’n gweld gyda llygaid pur Duw. Nawr, roedd roedden nhw’n gweld gyda golwg diflas dynoliaeth wedi syrthio
Byddai’r canlyniadau’n dal i boeni dynoliaeth. Hyd heddiw, pan fyddwn ni'n meddwl am ein cyrff a'n rhywioldeb, mae'n aml yn cael ei wneud dan faich o gywilydd, edifeirwch, galar a dicter.
Ond nid dyma yw diwedd ein straeon. Mae gobaith. Mewn nerth a chariad, gall Duw ein ffurfio ni yn ddwfn yn ffordd Iesu. Ynddo e y mae ein caethiwed wedi’i orchfygu. Nid gan ein clwyfau mae’r gair olaf. Crist sydd yn fuddugol.
Yn Iesu, mae dynoliaeth newydd yn cael ei chynnig: un sydd heb ei hualau gyda charchar o bechod a chywilydd ond sydd wedi ei rhyddhau i gyflawnder cariad Duw. Yn y weithred unigol honno a oedd yn ymwneud â’r goeden honno yng Ngardd Eden, cafodd y byd ei thaflu i drobwll peryglus o bechod. Ond yna daeth Iesu ac, mewn gweithred o ufudd-dod, newidiodd e am byth lwybr y byd.
Ie, cuddiodd Adda ac Efa y tu ôl i goeden, yn noeth ac wedi eu gorchfygu gan gywilydd. Ond crogodd Iesu ar goeden, yn noeth, a gorchfygodd gywilydd.
Yn Iesu, nid gan gywilydd mae’r gair olaf. Does dim angen i'n dymuniadau fod yn anhrefnus bellach. Gallwn ni fyw yn y rhyddid a ddaw yn ei enw fe.
Mae cyfanrwydd rhywiol yn cael ei gyflawni gyda chymorth gan eraill. A yw dy ddymuniadau rhywiol wedi mynd yn anhrefnus? Chwilia am bartner neu grŵp disgyblaeth neu sobreiddrwydd. Wyt ti'n unig? Dos ar drywydd adeikladu perthynas ag eraill. Wyt ti'n briod? Ymarfera gyflawnder cyfathrebu â'th briod a all ddod yn unig trwy ryw.
Am y Cynllun hwn

Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.
More
Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.richvillodas.com/