Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae Galar yn Brathu: Gobaith am y GwyliauSampl

Grief Bites: Hope for the Holidays

DYDD 5 O 5

Sut elli di greu gwyliau ystyrlon sy’n llawn heddwch, beth bynnag sy’n digwydd mewn bywyd?

Wrth brofi galar, yn enwedig ar ôl colli un annwyl neu berthynas gydag un annwyl, mae’n brofiad poenus creu “normal newydd” angenrheidiol... yn enwedig o amgylch y gwyliau. Mae'n bendant yn cymryd amser.

Os wyt ti prin fisoedd i mewn neu o fewn y flwyddyn gyntaf o golli rhywun, mae’n siŵr dy fod yn dioddef o dorcalon a ddim wir yn gwybod sut i ffeindio dy ffordd drwy’r gwyliau. Bydd rhai ddim yn teimlo fel gwneud fawr ddim, heb sôn am gynllunio amseroedd sbesial ar gyfer y gwyliau.

Weithiau, y peth gorau elli di ei wneud yn ystod cyfnod o alar yw caniatáu dy hun i glosio at Dduw a threulio’r rhan fwyaf o’r gwyliau gydag e, wrth iti dreulio amser yn gweddïo ag e, yn mwynhau ei gariad.

Falle bod gan rhai’r gallu i fwynhau’r Nadolig fel arfer trwy fwynhau’r cwbl o’r gweithgareddau a thraddodiadau arferol maen nhw wastad wedi’u mwynhau...ac mae hyn yn rhodd fawr!

Bydd eraill rywle yn y canol o’r ddau senario hyn...eisiau mwynhau’r traddodiadau arferol, ond hefyd awydd bod ar ben eu hunain am eu bod yn ei chael hi’n anodd ac yn dioddef torcalon

Mae’r cwbl yn gywir oherwydd dydy galar ddim run fath i bawb. Does dim “ateb anghywir.” Mae arweiniad Duw ym mhob galar yn unigryw iawn.

Sylweddolais i, po fwyaf o’n i’n ffocysu ar Dduw a’r “rheswm go iawn am y gwyliau,” roedd yn gymaint haws imi fwynhau cyfnod y Nadolig. Darganfyddais i hefyd, pan o’n i’n buddsoddi amser mewn eraill yn ystod y gwyliau, ac yn amrywio’r newydd a’r traddodiadau, roedd y gwyliau yn llai o faich dychrynllyd.

Sut mae creu atgofion arbennig ar gyfer y gwyliau wrth golli anwyliaid neu fynd trwy her bywyd?
Gall fod gofyn i Dduw dy helpu i edrych tu hwnt i’r poen (wrth gofleidio a ffeindio dy ffordd drwy dorcalon a galar) a gosod ystyr neu draddodiad newydd yn bwrpasol ar gyfer y gwyliau fod yn anodd; ond yn y pen draw gall fod o gymorth... ac yn hynod o iachusol.

Dyma rai esiamplau:

Pan o’n i’n fach, dw i’n cofio dad yn trefnu i’r teulu cyfan i wisgo eu pyjamas a mynd i weld goleuadau Nadolig gyda’n gilydd. Ar ôl cael plentyn fy hun, dŷn ni wastad wedi cadw’r traddodiad sbesial hyn. Dŷn ni wedi gwneud hyn am dros ugain mlynedd.

Traddodiad arall dw i wrth fy modd yn gwneud yw coginio hoff ddanteithion fy chwaer. Dw i wedyn yn edrych o gwmpas i weld pwy o’r teulu sydd mewn poen ymhlith y teulu a dw i’n mynd atyn nhw gyda’r platiau’n llawn danteithion blasus. Dw i wrth fy modd yn cynnig cyfnod o ryddhad i eraill dros gyfnod y gwyliau.

Rhannodd mam ifanc yn fy nghrŵp galar, bod colled ei merch fach, yn arteithiol dros gyfnod gwyliau’r blynyddoedd cynnar. Mae'r fam ifanc arbennig hon yn mabwysiadu angel (mae'n ceisio dod o hyd i angel gyda'r un pen-blwydd â'i merch) o'i Choeden Angel lleol ac yn prynu anrhegion i'r plentyn mewn angen er cof am ei merch.

Mae hefyd yn hollol iawn i gynnau cannwyll er cof am dy anwylyd. Mae gen i ffrind da sy’n dod i fy ngrŵp galar (mae hi hefyd yn arweinydd “TRAFOD GALAR”) sy’n cynnau cannwyll a gosod llun o’i rhieni wrth y gannwyll arbennig. Mae’n ffordd hyfryd o gofio anwylyd yn ystod pob gwyliau.

Gofynna i Dduw sut hoffai e iti dreulio cyfnod y gwyliau yma. Falle bydd yn wyliau tawel, hamddenol...falle y bydd yn gyfle iti fod yn ffynhonnell cariad ac anogaeth i eraill...falle y byddi’n dathlu fel wyt ti’n arfer dathlu...neu’n syml, yn gyfle i dreulio amser a mwynhau gyda dy anwyliaid...falle mai treulio amser i ffwrdd fydd orau...neu hyd yn oed wneud cyfuniad o bob un o’r rhain.

Pa bynnag ffordd y byddi’n dewis treulio amser y gwylia hyn, dw i’n gweddïo y byddi’n gwybod yn dy galon faint mae Duw yn wirioneddol yn gofalu amdanat ti. Dw i’n gweddïo y byddi’n profi o’i obaith a’i gariad! Dw i hefyd yn dymuno i bawb gariad, iachâd a heddwch!

Boed i'r tymor gwyliau hwn gael ei lenwi ag atgofion cynnes, arbennig...ac yn enwedig GOBAITH!

wedi derbyn y Rhodd EITHAF...perthynas gydag Iesu Grist?

Cymer amser heddiw i ddarllen Luc pennod 2, adnodau 1 i 21 ac Ioan pennod 3, adnod 16 iti dderbyn y Rhodd gorau allasai unrhyw un ei roi iti – yn union fel rwyt ti - a maddau dy holl bechodau. Y cwbl sydd raid iti ei wneud yw cael sgwrs onest gyda Duw drwy ofyn i Iesu ddod i mewn i’th galon a gofyn iddo i’th wneud yn newydd!

Os hoffet ti obaith ac anogaeth ychwanegol, dw i’n dy wahodd i ddarllen ein cynlluniau darllen arall:
•Trafod Galar: Dod o Hyd i Drysor Mewn Caledi •Trafod Galar: Agwedd Newydd At Dyfu Trwy Alar •Trafod Galar:Amheuaeth•Canu Drwy’r Storm

Dŷn ni hefyd yn cynnig anogaeth ddyddiol ar ein tudalennau blog a Facebook:
•www.griefbites.com
•www.facebook.com/GettingYourBreathBackAfterGrief

Rwyt ti mor werthfawr ac mae Duw’n poeni'n fawr am dy alar! DW i’n poeni'n fawr am dy alar hefyd, ac yn gweddïo bod Duw yn iacháu dy galon a'th fywyd trwy ei gariad!

Cofia bob amser gymaint mae Duw’n dy garu! Mae’n dy garu gymaint mae e’n canu drosot ti gyda chalon llawn llawenydd! Ti yw llawenydd ei galon! Paid byth ag anghofio gymaint mae e’n dy garu a mwynha cyfnod y gwyliau hyn i’r eithaf gydag e!

“Annwyl Dad Nefol mwyaf grasol, gofynnaf iti wneud gwaith gwych yng nghalon pob person heddiw ac yn y dyddiau i ddod. Pan fyddan nhw wedi eu llethu gan dristwch, gofynnaf iti eu lapio yn Dy gariad a chysuro eu calon yn ddwfn. Pan fydd dyddiau'n galed, gofynnaf iti gario'u torcalon a'u beichiau. Dw i’n gweddïo iti drwytho pob un ohonyn nhw â'th OBAITH gwerthfawr a drudfawr.

Rho iddyn nhw rodd o dymor gwyliau arbennig ystyrlon, yn enwedig gyda thi. Os nad ydyn nhw erioed wedi dy dderbyn di fel eu Harglwydd a'u Gwaredwr, dw i'n gweddïo iti eu harwain a'u cyfeirio at yr Anrheg Eithaf erioed - Ti! Dŷn ni'n dy garu di, Arglwydd, ac yn diolch i Ti ymlaen llaw am bopeth a wnei. Gweddwn yn Enw Iesu, Amen!

Mae’r defosiwn hwn © 2015 gan Kim Niles/Grief Bites. Cedwir pob hawl. Defnyddir gyda chaniatâd.

Am y Cynllun hwn

Grief Bites: Hope for the Holidays

I lawer, mae gwyliau yn amser o lawenydd mawr... ond beth sy’n digwydd pan mae’r gwyliau’n colli eu sglein ac yn troi’n heriol o ganlyniad i alar neu golled? Bydd y cynllun darllen arbennig hen yn helpu’r rheiny sy’n mynd drwy gyfnod o alar i ddod o hyd i gysur a gobaith ar gyfer y gwyliau, ac yn rhannu sut i greu cyfnod o wyliau ystyrlon er gwaethaf galar dwfn.

More

Hoffem ddiolch i Kim Niles, awdur "Getting Your Breath Back After Life Knocks It Out of You" am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.griefbites.com